Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru eisiau ‘ei chael hi’n iawn’ i deuluoedd 

   

Yr wythnos hon caiff mamau, tadau a phlant yn y Blaenau a Dyffryn gyfle i gwrdd â’r ymladdwyr tân a’r Cynghorwr Diogelwch Cymunedol, Stephanie Murphy, fel rhan o Wythnos Rhieni eleni.

 

Caiff Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru ei gynrychioli mewn digwyddiadau arbennig yng Nghanolfan Plant Integredig yn y Blaenau, Meithrinfa Ddydd Bettws a Dechrau’n Deg Casnewydd yn Ysgol Fabanod Dyffryn yr wythnos hon.

 

Cynhelir Wythnos Rhieni gan y Sefydliad Teulu a Magu Plant ac mae wedi’i sefydlu’n ffordd o gael teuluoedd ar ben yr agenda wleidyddol yn genedlaethol ac yn lleol.

 

Thema eleni yw ‘Ei chael hi’n iawn i deuluoedd’ a bydd digwyddiadau’n cael eu cynnal i rieni a theuluoedd ledled y wlad.  Mae’n gyfle delfrydol i wasanaethau plant a theulu, yn ogystal â grwpiau cymunedol, feddwl am y gweithgareddau maen nhw’n eu cynnig i rieni ac a allen nhw wneud yn well.

 

Meddai Steph Murphy, Cynghorwr Diogelwch Cymunedol (ar gyfer y Blynyddoedd Cynnar), “Dw i wrth fy modd i gymryd rhan yng ngweithgareddau’r wythnos hon ac rwy’n gobeithio siarad â llawer o blant a’u rhieni ynglŷn â chadw’n ddiogel rhag tân.  Mae’r Gwasanaeth Tân ac Achub bob amser yn awyddus ‘ei chael hi’n iawn i deuluoedd’ a thrwy siarad â phobl yn ystod yr wythnos hon, rydym yn gobeithio y byddwn ni’n gwneud hynny’n union.”

 

Meddai Mary MacLeod, Prif Weithredwr y Sefydliad Teulu a Magu Plant: “Mae Wythnos Rhieni’n amser gwych; rydyn ni bob amser yn cael adborth mor wych gan y gweithwyr proffesiynol sy’n gysylltiedig – a’r rhieni sy’n cael mwynhau’r digwyddiadau a’r gweithgareddau.”

 

“Mae’n rhy hawdd anghofio am rieni - gan eu camgymryd yn ‘gleientiaid’ a pheidio â mynd i’r afael â’r anghenion penodol mae bod yn rhiant yn dod â nhw.  Wythnos Rhieni yw’r cyfle delfrydol i ddathlu’r teulu yn ogystal â mesur a phwyso ac asesu a yw’r gwasanaethau sy’n cael eu cynnig i famau a thadau y gorau maen nhw’n gallu bod.  Dyna pam rydyn ni’n awyddus bod pawb yn gwneud yr hyn mae’n gallu ei wneud i’w chael hi’n iawn i deuluoedd.”

 

Caiff pawb yn ne Cymru ofyn am wiriad diogelwch tân am ddim a chael cyngor ac arweiniad un i un ar ddiogelwch yn y cartref, yn ogystal â larymau mwg am ddim trwy ffonio 0800 169 1234.  Bydd ymladdwyr tân o’ch gorsaf leol yn mynd i’ch cartref a chynnal y gwiriad yn rhad ac am ddim.

Tudalen Wedi Ei Diweddaru Ar 18/11/2008
SWFRS