SWFRS

Gwasanaeth Tân ac Achub yn dadorchuddio offer newydd i ymladd tanau gwyllt 

Yr wythnos nesaf bydd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn dadorchuddio gwerth £1/4 miliwn o offer uwch-dechnoleg y bydd criwiau tân yn defnyddio i ymladd y nifer enfawr o danau gwyllt sy’n arfer dinistrio Cymoedd De Cymru pob Gwanwyn, ac sy’n costio tua £9 miliwn y flwyddyn i drethdalwyr.

Bydd cerbydau ag offer hollol newydd, gan gynnwys 4 Argo Cat ar gyfer pob tirwedd sydd â systemau mygu, faniau troseddu tân arbenigol, llochesi tân a beiciau mynydd ar gyfer pob tirwedd yn cael eu dosbarthu dros yr wythnosau i ddod fel rhan o brosiect ‘tanau gwyllt’ Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru - dull newydd, aml ffordd i Ymladdwyr Tân ymladd tanau glaswellt, coedwig a mynydd. Yn ogystal â defnyddio offer a dillad ymladd tân newydd, mae’r prosiect yn datblygu technegau newydd o fewn addysgu, gorfodaeth, tacteg gweithredol, hyfforddiant a gweithio mewn partneriaeth.

Mae gan yr Argo Cats newydd wyth olwyn, maent yn addas ar gyfer pob tirwedd, yn gerbydau amffibiaidd, wedi’u cynllunio ar gyfer teithio ar draws ardaloedd mynyddog anghyraeddadwy ac yn gallu ‘nofio’ trwy ddŵr dwfn. Bydd systemau mygu tân uwch-dechnoleg wedi’u gosod arnynt - jetiau niwl dŵr gwasgedd uchel sy’n defnyddio ychydig bach o ddŵr i ddiffodd ardaloedd mawr o danau glaswellt yn gyflym. Golyga hyn, am y tro cyntaf erioed, y gall Ymladdwyr Tân ymladd tanau mynydd gyda dŵr, yn hytrach na’r curwyr glaswellt traddodiadol sy’n gwneud y dasg yn gorfforol heriol, yn enwedig mewn tymheredd uchel.

Bydd Uned Troseddu Tân y Gwasanaeth yn defnyddio tri cherbyd hollol newydd a fydd yn patrolio’r mynyddoedd a’r cymoedd ar draws y rhanbarth. Y bwriad yw darparu presenoldeb proffil uchel mewn ardaloedd lle mae lefel uchel o danau glaswellt a thanau gwyllt.

Dywedodd Martin Hendersen, Pennaeth Diogelwch Cymunedol a Phartneriaethau Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru:

“Mae mynd i’r afael â materion yn ymwneud â thanau gwyllt gymaint i’w wneud â chyflwyniad, addysg a gorfodaeth ag ydyw ag offer a thacteg gweithredol newydd. Rydym wedi bod, a byddwn yn parhau i weithio’n agos gyda Chomisiwn Coedwigaeth Cymru a’n asiantaethau partner i fynd i’r afael â materion sylfaenol ymddygiad gwrthgymdeithasol sy’n achosi dinistr i’r amgylchedd.”

I’w weld yr wythnos nesaf hefyd bydd microdrone y Gwasanaeth Tân ac Achub - hofrennydd awyr bychan sy’n cael ei weithredu o bell, sy’n ddefnyddiol fel ‘llygad yn yr awyr’ ar gyfer Ymladdwyr Tân sy’n ymladd tanau gwyllt ar raddfa fawr, ac sy’n helpu adnabod y bobl sy’n cynnau’r tanau.

Bydd cynrychiolwyr o Gomisiwn Coedwigaeth Cymru yn mynychu lansiad yr offer newydd, maent yn gweithio’n agos gyda’r Gwasanaeth Tân ac Achub ar ymladd tanau gwyllt drwy ddarparu hofrennydd arbenigol, ardaloedd hyfforddiant ar gyfer criwiau tân a sicrhau fod Ymladdwyr Tân yn derbyn gwybodaeth hanfodol, fel manylion rhwydwaith ffyrdd y goedwig, er mwyn eu cynorthwyo i ymateb yn gyflym i unrhyw argyfwng.

Yn arferol, mae cyfnod Gwyliau’r Pasg yn gweld cynnydd mawr yn y nifer o danau gwyllt sy’n cael eu cynnau’n fwriadol mewn glaswellt ac ar fynydd, mae hyn yn costio miliynau i drethdalwyr ac o ganlyniad mae criwiau Tân De Cymru yn cael eu gwthio i’r eithaf. Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn gwneud paratoadau arbennig yn flynyddol ar gyfer llifeiriant posibl, eleni mae’r Gwasanaeth yn gobeithio y bydd yr offer uwch-dechnoleg yn lleihau’r baich i’r cannoedd o Ymladdwyr Tân y gallai gael eu danfon i’r cymoedd dros yr wythnosau i ddod.

“Bydd yr offer yn galluogi chwyldroad yn y ffordd mae ein criwiau tân yn ymladd tanau gwyllt”, dywedodd Andrew Thomas, Rheolwr Ardal, sy’n bennaeth ar brosiect tanau gwyllt Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru.

 “Golyga y gall ein Hymladdwyr Tân ddarparu ymateb cyflym, effeithiol, gan ymladd tanau mewn ardaloedd garw ac anghyraeddadwy gan ddefnyddio dŵr yn ogystal â’r curwyr tân maent yn arfer defnyddio. Yn y gorffennol, mae criwiau ar adegau wedi gorfod teithio milltiroedd i leoliad y tân mewn dillad amddiffynnol trwchus yna defnyddio curwyr tân trwm i ddiffodd y fflamau. Bydd hyn yn gwella eu hymateb, gan ei wneud yn fwy cyflym, yn fwy effeithiol, ac yn lleihau’r tebygrwydd o anafiadau neu achosion posibl o flinder gwres y maent wedi dioddef yn y gorffennol”, dywedodd.

Aeth AM Thomas ymlaen: “Mae tanau gwyllt yn hynod o anrhagweladwy ac yn gallu mynd allan o reolaeth o fewn munudau. Pob tro y caiff ein Hymladdwyr Tân eu galw i dân glaswellt neu fynydd, mae’n costio miloedd o bunnoedd i drethdalwyr, a hefyd yn golygu y gallai Ymladdwyr Tân fod wedi’u dargyfeirio rhag mynychu gwir argyfwng - rhywun wedi’u dal mewn tân yn y cartref neu mewn car wedi cael damwain, digwyddiad lle mae potensial fod bywyd mewn perygl”.

Manylion Cyswllt:

Ffôn: 01443 232164
Ffacs: 01443 232165

E-bost: press_office@southwales-fire.gov.uk

SWFRS
Tudalen Wedi Ei Diweddaru Ar 21/2/2010