Bydd deg mil o ‘fagiau Nadolig’ yn cynnwys larwm mwg, calendr Ymladdwyr Tân 2009 a llyfryn ‘Dathlu yn Ddiogel’ yn cael eu dosbarthu ar draws De Cymru wrth i’r Nadolig agosáu.
Yn 2007-8 roedd 826 o danau damweiniol yn y cartref yn Ne Cymru. Digwyddodd 96 o’r rhain ym mis Rhagfyr ac achos bron hanner ohonynt (41) oedd coginio. Roedd 209 o danau damweiniol yn y cartref yng Nghaerdydd, sef y lleoliad ar gyfer lansio’r Calendr sy’n cynnwys deuddeg o negeseuon diogelwch.
Bydd calendr 2009 yn cael ei lansio mewn digwyddiad yn yr Ice Café yng Ngŵyl y Gaeaf Caerdydd brynhawn ddydd Llun. Bydd Ymladdwyr Tân o’r Ganolfan Hyfforddiant (Porth Caerdydd), adran Diogelwch Cymunedol (Malpas), Ymyrraeth a Rheolwyr Rhan Amser (Pont-y-clun, Pencadlys) a Gorsafoedd Tân Bargoed, Malpas, Pen-y-bont ar Ogwr, Canol Caerdydd, Brynbuga, Dyffryn, Penarth a Threlái oll i’w gweld yn y calendr newydd.
Sêr eraill y calendr yw plant o Feithrinfa Bute Cottage, Ysgolion Cynradd Victoria ac Evenlode ym Mhenarth ac Ysgol Gynradd Llanilltud Faerdref yn Church Village. Mae June Webb o Glwb y Byddar Casnewydd i’w gweld yn llun mis Ionawr yn derbyn larwm mwg wedi’i gynllunio’n arbennig ar gyfer pobl â nam ar y clyw.
Bydd pob Gorsaf Dân yn Ne Cymru yn dosbarthu’r bagiau Nadolig wrth gasglu enwau a chyfeiriadau pobl sydd â diddordeb mewn derbyn archwiliad diogelwch tân yn y cartref mewn archfarchnadoedd a chanolfannau siopa ddydd Llun.
Dywedodd Martin Henderson, Pennaeth Diogelwch Cymunedol Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, Bydd y rhoddion Nadolig yn cael eu targedu ar lefel leol gan ein Hymladdwyr Tân a fydd yn dosbarthu’r pecynnau i bobl sydd yn yr archfarchnadoedd yn gwneud eu siopa Nadolig.
Coginio yw un o brif achosion tanau damweiniol yn Ne Cymru felly dylai’r rhoddion a ddarparwn atgoffa pobl i aros yn ddiogel dros y Nadolig yn ogystal â dros weddill y flwyddyn. Os oes unrhyw un am i’r Gwasanaeth Tân ac Achub osod eu larwm mwg ar eu cyfer, gallant ffonio rhadffôn 0800 169 1234 i ofyn am archwiliad diogelwch tân yn y cartref ac fe fyddwn yn gosod y larwm a’u cynghori ar sut i gadw’n ddiogel.
Dywedodd y Cynghorydd Anthony Ernest, Cadeirydd Awdurdod Tân ac Achub De Cymru, Rydym yn hynod falch i lansio’r calendr hwn fel rhan o’n hymgyrch dros y Nadolig. Gobeithio bydd ein cymunedau yn elwa o’r larymau mwg a’r archwiliadau diogelwch tân yn y cartref a ddarparwn er mwyn mwynhau 2009 mwy diogel.
Ionawr
Gwnewch adduned Blwyddyn Newydd - trefnwch Archwiliad Diogelwch Tân yn y Cartref heddiw! Mae larymau mwg yn cael eu gosod am ddim ac maent hefyd ar gael i bobl sydd â nam ar eu clyw.
Rheolwr Gorsaf Vaughan Jenkins – Diogelwch Cymunedol, Malpas, Ymladdwr Tân Jonathan Hopkins - Diogelwch Cymunedol, Malpas
Chwefror
Wedi meddwi? Paid â choginio. Pryna bryd parod i’w fwyta.
Ymladdwr Tân Kirk Greenslade, Ymladdwr Tân Hywel Matthews ac Ymladdwr Tân Elliot Mills – Gorsaf Dân Bargoed
Mawrth
Diffoddwch hi, yn llwyr.
Diffoddwch eich sigaréts yn llwyr bob tro.
Ymladdwr Tân Matthew Pimm – Gorsaf Dân Malpas, Rheolwr Criw Ashley Davies – Gorsaf Dân Pen-y-bont ar Ogwr a Rheolwr Criw Chris Conway – Gorsaf Dân Canol Caerdydd
Ebrill
Gwnewch gynllun dianc a dihangwch yn fyw. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod ble mae allweddi eich ffenestri a’ch drysau yn cael eu cadw.
Ymladdwr Tân Keir Ennis – Gorsaf Dân Bargoed
Mai
Peidiwch â chwarae gyda thân. Mae tanau gwyllt yn lladd.
Ymladdwraig Dân Charlotte Martin ac Ymladdwraig Dân Tara Kear – Gorsaf Dân Brynbuga
Mehefin
Edrychwch ar ôl y rhai bychan. Cadwch fatsis a thanwyr allan o gyrraedd plant.
Rheolwr Gwylfa Mark Holley – Canolfan Hyfforddiant Porth Caerdydd
Gorffennaf
Mae tanau trydanol yn lladd – peidiwch â gorlwytho socedi, cofiwch gynnal a chadw eich peiriannau a’u diffodd pan nad ydynt yn cael eu defnyddio.
Ymladdwraig Dân Jenny Rogers – Gorsaf Dân Dyffryn
Awst
Peidiwch â mentro’ch pen! Parchwch y terfyn cyflymder.
Rheolwr Gwylfa Gerry Newell – Gorsaf Dân Bargoed
Medi
Gall sosbenni sglodion fod yn beryglus - peidiwch â throi eich cefn wrth goginio.
Rheolwr Gwylfa Bleddyn Jones – Ymyrraeth, Pencadlys
Hydref
Gwisgwch wregys – byddwch yn ddiogel. Gwisgwch wregys diogelwch pob tro.
Rheolwr Gorsaf Phil Pinches – Rheolwr Rhan Amser a Rheolwr Gwylfa Peter Howard-Jones - Ymyrraeth, Pencadlys
Tachwedd
Byddwch yn ddiogel ar Noson Tân Gwyllt – ewch i arddangosfa wedi’i threfnu.
Rheolwr Gorsaf Matt Jones – Uned Troseddau Tân
Rhagfyr
Dathlwch yn ddiogel! Diffoddwch y goleuadau parti a diffodd canhwyllau cyn gadael adref.
Rheolwr Grŵp Andy Petersen –Diogelwch Cymunedol, Rheolwr Gorsaf Mark Sanderson – Gorsaf Dân Pen-y-bont ar Ogwr, Ymladdwr Tân Alex Psaila – Gorsaf Dân Penarth, Ymladdwr Tân Dave Shepherd - Gorsaf Dân Penarth ac Ymladdwr Tân Dominic Lijertwood – Gorsaf Dân Trelái
Lawrlwytho Calendr 2009 ar ffurf PDF
Ffôn: 01443 232164 Ffacs: 01443 232165
E-bost: press_office@southwales-fire.gov.uk
Ffôn am dim ar 0800 169 1234 Llanwch y ffurflen cofrestri ar lein Cysylltwch â’ch Gorsaf Dân leol E-bost: Diogelwch Tân yn y Cartref
Ffôn am dim ar 0800 169 1234
Llanwch y ffurflen cofrestri ar lein
Cysylltwch â’ch Gorsaf Dân leol
E-bost: Diogelwch Tân yn y Cartref