Effaith Domino Dinistriol mewn Gwrthdrawiadau Traffig ar y Ffyrdd 

‘Yr Effaith Domino – mae un gwrthdrawiad yn effeithio ar fywydau nifer o bobl... gyrrwch yn ofalus’. Dyna’r neges a roddir i bobl ifanc yn Ysgol Gyfun Bassaleg ddydd Gwener fel rhan o ymgyrch i’w hannog i yrru’n ofalus.



Bydd sioe deithiol ‘Effaith Domino’ Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru’n cael ei chodi yn yr ysgol ddydd Gwener a bydd Swyddogion Tân yn gwneud cyflwyniad yno ochr yn ochr â chydweithwyr o Heddlu Gwent. Nod y neges yw gwneud i bobl feddwl am yr effaith y gall gwrthdrawiad traffig ar y ffyrdd gael ar eu teuluoedd a’u ffrindiau.



Mae delweddau’r ymgyrch yn dangos wynebau pobl sydd wedi cael eu heffeithio gan wrthdrawiad traffig ar y ffyrdd ar set o ddominos. Mae’r rhain yn amrywio o griwiau argyfwng ar safle damwain, i berthynas yn galaru. Dangosir y rhain yn y drefn ganlynol: ymladdwr tân a fydd, o bosib, yn torri claf allan o gar wedi’i falu, parafeddyg a fydd yn ceisio achub ei fywyd, y swyddog heddlu a fydd yn gorfod dweud wrth y teulu am farwolaeth, perthynas sy’n galaru ac wedyn tusw o flodau wedi’i glymu wrth bolyn lamp er cof am farwolaeth arall wrth ymyl y ffordd.



Ddydd Gwener yma, caiff neges ‘Yr Effaith Domino’ ei hamlygu mewn digwyddiad diwrnod cyfan yn Ysgol Gyfun Bassaleg gan swyddogion tân a heddlu. Bydd y digwyddiad yn cynnwys cyflwyniadau i fyfyrwyr mewn ystafelloedd dosbarth, sef “Sioe Deithiol Car mewn Damwain”, a ariannwyd gan ddeg awdurdod unedol ac yn cynnwys car sydd wedi’i addasu i edrych fel ei fod wedi bod mewn gwrthdrawiad, gyda dymis profion gwrthdrawiadau y tu mewn i ddangos yr effaith ar y teithwyr.


Meddai Dave Ansell, Swyddog Lleihau Gwrthdrawiadau Traffig ar y Ffyrdd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, “Nod y thema hon yw gwneud i bobl feddwl ynghylch pam y dylen nhw yrru’n ofalus. Yn aml, ymladdwyr tân yw’r cyntaf neu’r ail i gyrraedd safle damwain ac yn rhai o’r bobl gyntaf i gael eu heffeithio. Fodd bynnag, mae effaith gynyddol gwrthdrawiad traffig ar y ffyrdd yn mynd ymhellach o lawer na chriwiau argyfwng. Mae teuluoedd a ffrindiau’n cael eu gadael ar ôl i ddelio â’u colled a’r cwestiwn a fyddai wedi bod yn bosib osgoi’r ddamwain trwy yrru’n fwy gofalus ac yn fwy cyfrifol.”


Ychwanegodd Mark Ruddick, Cwnstabl Heddlu Gwent:



“Cydnabuwyd ei bod yn angenrheidiol siarad â’r bobl hynny mae gyrru’n newydd iddyn nhw er mwyn trosglwyddo’r neges am ddiogelwch ynghylch cyflymder, a ble gwell i wneud hyn nag yn ein hysgolion? Diolch i’n cysylltiadau agos ag Ysgol Gyfun Bassaleg, dyma le delfrydol i ddechrau. Rydyn ni’n gobeithio y bydd yr ymarfer yn cael ei gyflwyno i’n holl ysgolion yn ardal Casnewydd yn y dyfodol”.



Mae’r cyflwyniadau i bobl ifanc yn cynnwys hysbysebion teledu didrugaredd a ddefnyddir mewn gwledydd eraill i amlygu peryglon megis yfed a gyrru, peidio â gwisgo gwregys diogelwch a gyrru’n rhy gyflym.

 

Tudalen Wedi Ei Diweddaru Ar 17/6/2009
SWFRS