Tanlinellodd PST Brian Fraser yr ystadegau mwyaf amlwg i’w staff yn dilyn yr adroddiad diwedd y flwyddyn. Dywedodd, “Yn 2006/2007 collodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru un person yn unig mewn damwain tân yn y cartref. Does dim amheuaeth fod y digwyddiad hwn yn drist a thrasig tu hwnt a chynigiwn ein cydymdeimlad i deulu’r dioddefwr.”
“Er hynny, hoffwn dynnu eich sylw at gyflawniad aruthrol pawb sy’n gweithio i Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru sydd wedi cyfrannu at leihau nifer y marwolaethau tân ataliadwy i un yn unig.”
Dim ond deg mlynedd yn ôl collodd ardal De Cymru 26 o bobl mewn tanau mewn un flwyddyn yn unig, felly fel y gwelwch, drwy ymrwymiad anhygoel ac ymdrech tîm y staff, rydym ni wedi gallu atal nifer o farwolaethau posibl dros y blynyddoedd.”
Mae Ymladdwyr Tân a Swyddogion Tân Cymunedol wedi bod yn brysur tu hwnt yn codi ymwybyddiaeth am ddiogelwch tân mewn cartrefi, gan gynnig a gweithredu gwiriadau diogelwch tân cartref am ddim a bu hyn o fantais fawr i’r cyhoedd. Ar y cyd â’n presenoldeb ar leoliadau sydd ar dân a gwaith ein staff ystafelloedd rheoli, rydym ni wedi gweld y gwellhad dramatig hwn mewn diogelwch cyhoeddus, a’n her yn awr yw cynnal y safon uchel hon o berfformiad.” Mae marwolaethau tân damweiniol wedi bod yn cwympo ar draws y DU yn y blynyddoedd diwethaf, ond nid oes llawer o Wasanaethau Tân ac Achub yn y DU wedi colli un bywyd yn unig dros y flwyddyn ddiwethaf.
Os hoffech chi gael gwiriad diogelwch tân cartref am ddim gan ymladdwyr tân lleol, ffoniwch 0800 169 1234.