Roedd GWASANAETH TÂN AC ACHUB DE CYMRU ar strydoedd Caerdydd y penwythnos diwethaf yn dosbarthu sglodion a chyngor diogelwch am ddim i gefnogwyr rygbi.
Roedd y Siop Diogelwch Un Stop yno i rybuddio cannoedd o ddilynwyr a aeth i’r brifddinas ar gyfer gêm Pencampwriaeth y Chwe Gwlad rhwng Cymru a’r Alban am ganlyniadau trychinebus posibl coginio yn eich cartref wedi bod yn yfed.
Roedd Ymladdwyr Tân yn rhoi pecynnau o sglodion am ddim i’r cefnogwyr llwglyd gan bwysleisio ei fod yn fwy diogel dewis cludfwyd yn hytrach na choginio yn eich cartref wedi i chi fod yn yfed alcohol.
Tanau yn yr hen fath o sosbenni sglodion yw un o’r peryglon mwyaf sy’n wynebu Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru ac mae’r blinder sy’n cael ei achosi gan yfed alcohol wedi’i gyfuno â’r amser byr sydd ei angen ar sosban sglodion i dwymo yn gallu arwain at drychineb, ac mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn benderfynol o helpu pobl i osgoi hyn.
Dywedodd Prif Swyddog Tân Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, Andy Marles:
“Roedd hwn yn gyfle gwych i ni ymestyn allan i’r gymuned ehangach a siarad gyda chymaint o bobl â phosibl ynghylch peryglon coginio wedi bod yn yfed.”
“Gall canlyniadau ceisio coginio pryd o fwyd poeth pan fyddwch o dan ddylanwad alcohol fod yn hynod o ddifrifol, hyd yn oed yn angheuol, ac ni allwn bwysleisio digon pa mor beryglus y gall ceisio coginio wedi noson allan fod.”
“Mae cludfwyd yn ddewis llawer mwy diogel a bydd yn sicrhau fod y dathliadau’n parhau yn ddiogel a bod trychineb yn cael ei hosgoi.”
Cafodd ymwelwyr â’r Siop Diogelwch Un Stop gerdyn waled sydd â rhif ffôn Dragons Taxi Caerydd, cyfeiriad gwefan cludfwyd Just-Eat a rhif ffôn ar gyfer trefnu Archwiliad Diogelwch Tân yn y Cartref AM DDIM (0800 169 1234).
Roedd cyngor diogelwch tân ar gael, larymau mwg am ddim a chyfle i gymryd rhan mewn cystadleuaeth i ennill cludfwyd am ddim am flwyddyn gyfan.
Bydd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn St John’s Square, Caerdydd, unwaith eto ar 20 Mawrth ar gyfer gêm Cymru yn erbyn yr Eidal , gan ddarparu mwy o gyngor diogelwch a mwy o sglodion a chyngor ar sut i aros yn ddiogel wedi noson allan. Gwnewch yn siŵr eich bod yn ymweld â’r Siop Diogelwch Un Stop neu ewch i www.decymru-tan.gov.uk.
Os bydd tân yn digwydd mewn sosban sglodion, ewch allan o’r gegin, cau'r drws tu ôl i chi, anfonwch bawb allan o’r tŷ, arhoswch allan, a galw’r Gwasanaeth Tân ac Achub.
Gall unrhyw un yng Nghymru ffonio’r rhif rhadffôn cenedlaethol, sef 0800 169 1234 i wneud cais am archwiliad diogelwch tân yn y cartref am ddim. Yna, pan fydd yn gyfleus, bydd Ymladdwyr Tân o’ch ardal leol yn dod i’ch cartref i roi cyngor ar ddiogelwch tân yn y cartref a gosod larymau mwg am ddim.
Manylion Cyswllt Ffôn: 01443 232000 Ffacs: 01443 232165 E-bost: Swyddfa’r_Wasg@decymru-tan.gov.uk Gallwch ein Hoffi ar Facebook, ein Dilyn ar Twitter ein Gwylio ar Flickr a YouTube.
Manylion Cyswllt
Ffôn: 01443 232000 Ffacs: 01443 232165
E-bost: Swyddfa’r_Wasg@decymru-tan.gov.uk
Gallwch ein Hoffi ar Facebook, ein Dilyn ar Twitter ein Gwylio ar Flickr a YouTube.
Ymweliad Diogelwch Tân yn y Cartref Ffôn am dim ar 0800 169 1234 Llanwch y ffurflen cofrestri ar lein E-bost: Diogelwch Tân yn y Cartref Testun: 88365 [Canllaw]
Ffôn am dim ar 0800 169 1234
Llanwch y ffurflen cofrestri ar lein
E-bost: Diogelwch Tân yn y Cartref Testun: 88365 [Canllaw]
View photos of the day