Sêl Cist Car a Diwrnod o Hwyl i’r Teulu 

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru (GTADC) yn cynnal sêl cist car a diwrnod o hwyl i’r teulu ddydd Sadwrn 17 Ebrill.

Bydd yn cael ei gynnal ym Mhencadlys GTADC (Parc Busnes Forest View, Llantrisant, CF72 8LX), bydd gatiau’n agor i werthwyr am 9am a bydd prynwyr yn gallu cyrraedd o 10am ymlaen. Bydd y digwyddiad yn dod i ben am 4pm.

Bydd gweithgareddau ac arddangosiadau yn cael eu cynnal drwy gydol y dydd, gan gynnwys chwilio ac achub trefol, ci ymchwilio tân, peintio wynebau, castell bownsio, raffl a llawer mwy. Bydd hefyd lluniaeth ar gael i’w prynu ar y safle.

Mae parcio am ddim i brynwyr.

Cost i werthwyr yw £5 am gar a £7 am fan. 

Bydd yr holl elw yn mynd i Elusen yr Ymladdwyr Tân.

                  Manylion Cyswllt  




Ffôn: 01443 232000
Ffacs:
01443 232165

E-bost: Swyddfa’r_Wasg@decymru-tan.gov.uk 


Gallwch ein Hoffi ar Facebook, ein Dilyn ar Twitter ein Gwylio ar Flickr a YouTube.

              Contact Details




Tel:
01443 232000
Fax: 01443 232165

email: press_office@southwales-fire.gov.uk

 
You can now Like us on Facebook, follow us on Twitter and view us on Flickr and YouTube

Tudalen Wedi Ei Diweddaru Ar 13/4/2011
SWFRS