Mae Bernie yn ôl! 

Mae Bernie yn ôl eleni, ac mae’r prosiect yn fwy fyth! Mae ‘Prosiect Bernie’ yn fenter rhwng y Gwasanaeth Tân ac Achub a’i bartneriaid gyda’r bwriad i fynd i’r afael â thanau glaswellt a thanau mynydd bwriadol a’u hatal dros gyfnod Gwyliau’r Pasg yn yr ardaloedd sy’n wynebu’r perygl uchaf yn Ne Cymru.

Y llynedd, cafodd prosiect peilot ei gynnal yn Nhonypandy a fu’n *llwyddiant ysgubol ac felly eleni mae’r prosiect wedi’i fabwysiadu gan Bartneriaethau Diogelwch Cymunedol ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Caerffili, Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf. Bydd y prosiect yn cael ei gynnal yn ardaloedd Maesteg, Bargoed, Merthyr, Tonypandy a Threorci.

Enw’r fenter yw ‘Prosiect Bernie’. Dafad cartŵn (Bernie) yw logo’r prosiect a’r slogan yw ‘Glaswellt Glas, Tân Cas’.

I ddathlu dechreuad cyffrous i ‘Brosiect Bernie’ eleni, bydd y Partneriaethau Diogelwch Cymunedol yn cynnal **lansiadau unigol. Bydd staff yr adran Diogelwch Cymunedol a Phartneriaethau a’u partneriaid ar gael i roi rhagor o wybodaeth am nodau’r prosiect, yn ogystal â manylion am weithgareddau gorfodi a gweithgareddau gwyro am ddim a fydd yn cael eu cynnal ar gyfer pobl ifanc pob ardal awdurdod unedol yn ystod gwyliau’r Pasg.

Byddant hefyd yn dosbarthu eitemau hyrwyddo ‘Prosiect Bernie’ yn eu hardaloedd o ddydd Llun 4 Ebrill 2011 gan gynnwys hwdis, hetiau, torchau allweddi a llawer mwy.

Mae ‘Prosiect Bernie’ yn brosiect ymgysylltu sydd wedi’i deilwra ar gyfer y cymunedau sy’n dioddef traddodiad o nifer uchel o danau glaswellt a thanau mynydd bwriadol gan ddefnyddio technegau marchnata cymdeithasol newydd ar gyfer addysg, gorfodaeth, tactegau gweithredol a hyfforddiant yn ogystal â gweithio mewn partneriaeth.

Bydd Prosiect 6 wythnos Bernie 2011 yn cychwyn ar 4 Ebrill ac yn canolbwyntio ar;

1.  Gweithgareddau gwyro ar gyfer pobl ifanc yn ystod gwyliau’r Pasg.

Drwy gydweithio â’r bobl ifanc sy’n byw ac yn astudio ym mhob un o’r ardaloedd awdurdod unedol sydd wedi’u nodi, mae rhaglen o weithgareddau gwyro wedi’i datblygu a bydd yn cael ei chynnal drwy gydol gwyliau’r Pasg. Bydd gweithgareddau’n cynnwys dod yn Ymladdwr Tân am y dydd, dysgu sut i ddylunio a chynhyrchu darn o gelf graffiti yn ymwneud â thân, creu crochenwaith, ysgrifennu cân a recordio CD a dysgu sgiliau goroesi ‘Byw yn y Gwyllt’. Bydd y gweithgareddau’n cael eu defnyddio i addysgu ac ‘atal’ pobl ifanc rhag cynnau tanau glaswellt bwriadol.

2. Patrolau amlwg yn yr ardal

Bydd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn darparu presenoldeb amlwg mewn ardaloedd lle mae nifer uchel o danau glaswellt a thanau mynydd er mwyn ‘atal’ pobl ifanc rhag cynnau tanau glaswellt bwriadol.

3. Negeseuon amlwg yn y cyfryngau (codi ymwybyddiaeth y gymuned leol)

Bydd negeseuon gorfodaeth a gwyro yn cael eu hyrwyddo drwy gyfryngau megis hysbysfyrddau, stensiliau stryd, posteri, llyfrynnau gweithgaredd a thaflenni oll yn defnyddio brand ‘Prosiect Bernie’.

4.  Cefnogaeth y gymuned leol

Byddwn yn ennill cefnogaeth y gymuned drwy godi ymwybyddiaeth y cyhoedd am y broblem tanau glaswellt a thanau mynydd bwriadol a’u canlyniadau. Bydd ysgolion uwchradd lleol yn cael eu defnyddio i hyrwyddo a chadarnhau gweithgareddau a negeseuon Bernie. Byddwn hefyd yn chwilio am gefnogaeth masnachwyr lleol er mwyn cyfyngu ar werthu matsys a thanwyr i bobl ifanc o dan 18 mlwydd oed. 

5. Dim Goddefgarwch
Drwy gydweithio â Heddlu De Cymru a phartneriaid eraill, ni fydd dim goddefgarwch gennym tuag at y bobl sy’n gyfrifol am gychwyn tanau glaswellt a thanau mynydd yn fwriadol, byddwn yn defnyddio Teledu Cylch Cyfyng i ddod o hyd i’r troseddwyr.

Negeseuon Allweddol:

  • Gall llosgwyr bwriadol sydd wedi’u collfarnu wynebu canlyniadau difrifol
  • Mae Llosgi Bwriadol yn cael effaith negyddol ar yr amgylchedd, ar yr economi ac ar y bobl yn y gymuned leol a thu hwnt

Mae’r Partneriaethau Diogelwch Cymunedol yn cynnal ac yn hwyluso gweithgareddau gwyro ac ymgysylltu ar gyfer pobl ifanc ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Caerffili, Merthyr a Rhondda Cynon Taf o dan deitl prosiect Bernie.

Dywedodd Martin Hendersen, Pennaeth Lleihau Risg Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru;

“Mae mynd i’r afael â’r broblem tanau glaswellt bwriadol yn ymwneud ag atal, addysgu a gorfodaeth yn ogystal â’r offer gweithredol a thactegau newydd. Rydym wedi bod yn gweithio’n agos gyda’r Comisiwn Coedwigaeth a’n hasiantaethau partner, ac fe fyddwn yn parhau i wneud hynny er mwyn mynd i’r afael â’r achosion tu ôl i ymddygiad gwrthgymdeithasol sy’n arwain at ddifrod i’r amgylchedd. Rydym yn awyddus iawn i gynnwys y bobl leol yn y gwaith o atal difrod tanau glaswellt bwriadol, am ei fod yn cael effaith negyddol ar gymunedau, ar drethdalwyr ac ar yr amgylchedd. Mae’n rhaid atal hyn.”

Dywedodd y Cynghorydd Anthony Ernest, Cadeirydd Awdurdod Tân ac Achub De Cymru,

 “Mae traddodiad dros gyfnod gwyliau’r Pasg fod nifer y tanau glaswellt a thanau mynydd bwriadol yn codi’n sylweddol sy’n arwain at griwiau tân De Cymru yn cael eu hymestyn ymhellach na’u gallu. Yn flynyddol, mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn gwneud paratoadau arbennig ar gyfer y cyfnod prysur posib hwn ac eleni mae’r Gwasanaeth yn gobeithio y bydd y gweithgareddau gwyro a gorfodaeth sydd yn eu lle gyda ‘Prosiect Bernie’ yn gostwng nifer y tanau glaswellt bwriadol unwaith eto gan leihau’r baich i’r cannoedd o Ymladdwyr Tân a allai gael eu hanfon i’r cymoedd dros yr wythnosau i ddod”.

Dywedodd Andy Marles, Prif Swyddog Tân Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru;

 “Mae tanau glaswellt bwriadol yn hynod o anodd eu rhagweld ac fe allant losgi allan o reolaeth o fewn munudau. Bob tro mae ein Hymladdwyr Tân yn cael eu hanfon i dân glaswellt neu dân mynydd mae’n costio miloedd o bunnoedd i’r trethdalwyr, mae’n cael effaith negyddol ar yr amgylchedd a bywyd gwyllt, yn creu ôl-troed carbon ac yn rhoi Ymladdwyr Tân mewn perygl diangen. Mae hefyd yn golygu y gallai Ymladdwyr Tân gael eu tynnu oddi wrth argyfwng gwirioneddol - rhywun wedi’i ddal mewn tân cartref neu mewn car wedi cael gwrthdrawiad, lle mae bywydau mewn perygl”.

Mae gwybodaeth am ‘Brosiect Bernie’ i gael ar www.bernie.uk.com ac fe allwch ddangos eich cefnogaeth drwy ddod yn ffrind i Bernie ar Facebook (Search Bernie South Wales
http://www.facebook.com/home.php#!/profile.php?id=100000809563220, a dilyn yr addewid “Rwy’n helpu a chefnogi Bernie i ostwng nifer y tanau glaswellt bwriadol yng Nghymru”. Gallwch hefyd ddilyn Bernie ar Twitter!
http://twitter.com/#!/BernieSWFRS!


 

                  Manylion Cyswllt  




Ffôn: 01443 232000
Ffacs:
01443 232165

E-bost: Swyddfa’r_Wasg@decymru-tan.gov.uk 


Gallwch ein Hoffi ar Facebook, ein Dilyn ar Twitter ein Gwylio ar Flickr a YouTube.

              Contact Details




Tel:
01443 232000
Fax: 01443 232165

email: press_office@southwales-fire.gov.uk

 
You can now Like us on Facebook, follow us on Twitter and view us on Flickr and YouTube

Tudalen Wedi Ei Diweddaru Ar 05/4/2011
SWFRS