Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn cyhoeddi Dirprwy Brif Swyddog Tân newydd
Mae Cadeirydd Awdurdod Tân ac Achub De Cymru, Y Cynghorydd Anthony Ernest, wedi cyhoeddi penodiad Dirprwy Brif Swyddog Tân newydd ar gyfer Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru.
Cafodd Huw Jakeway, sy’n Brif Swyddog Cynorthwyol a Chyfarwyddwr Gwasanaethau Technegol ar hyn o bryd, ei benodi yn Ddirprwy Brif Swyddog Tân gan Bwyllgor Penodi'r Awdurdod Tân ar Fawrth 14. Bydd yn cychwyn ar ei swydd newydd yn syth.
Gwnaeth deiliad blaenorol y swydd, Kevin Barry, ymddeol ddechrau mis Mawrth wedi 31 mlynedd o wasanaeth.
Dywedodd y Cynghorydd Anthony Ernest, Cadeirydd Awdurdod Tân ac Achub De Cymru:
"Mae’n bleser cael bod y cyntaf i longyfarch Huw Jakeway ar gael ei ddyrchafu gan Banel Penodi'r Awdurdod Tân ac Achub i’r rôl Dirprwy Brif Swyddog Tân ar gyfer y sefydliad arbennig hwn.”
“Mae Huw wedi gweithio’n galed iawn ar lefel Prif Swyddog Cynorthwyol i sicrhau bod gan ein holl staff ar y rheng flaen y gweithdrefnau mwyaf diogel i’w dilyn, yr offer amddiffyn personol gorau, y cynllun gorau o ran ysgol ddŵr, yr Offer Anadlu gorau - ac mae’r rhestr yn un faith. Mae Huw wedi bod yn allweddol o ran sicrhau bod staff y rheng flaen ynghlwm â chynllunio a dewis yr offer y mae’n rhaid i’n Hymladdwyr Tân eu defnyddio er mwyn sicrhau canlyniad llwyddiannus i bob un o’r digwyddiadau yr ydym yn delio â hwy yn ddyddiol”.
“Mae Huw wedi bod yn aelod o uwch dîm yr Awdurdod Tân ac Achub, ac fe fydd yn parhau i fod yn aelod. Mae’r Awdurdod yn hynod o ffodus i gael tîm o’r fath. Bydd colled enfawr ar ôl Kevin Barry ac rwy’n dymuno’r gorau iddo ar gyfer y dyfodol ond rwy’n siŵr bod Huw yn fwy na pharod i’r her ac i fod yn Ddirprwy i’r Prif Swyddog Tân yn ôl yr angen.”
“Bydd Huw yn derbyn y cyfrifoldeb am y rôl darparu gwasanaeth yn gyfan gwbl a bydd y cyfarwyddwyr eraill yn parhau gyda’u rolau cyfredol.”
Dywedodd Huw Jakeway:
"Rwy’n hynod o hapus a falch i gael fy mhenodi yn Ddirprwy Brif Swyddog Tân. Rwy’n gwerthfawrogi’r cymorth a’r hyder yr wyf wedi derbyn wrth aelodau’r Awdurdod Tân ac Achub a’m cydweithwyr o fewn y Gwasanaeth. Edrychaf ymlaen at y nifer o heriau a chyfleoedd y bydd fy rôl newydd yn eu cynnig”.
Manylion Cyswllt
Ffôn: 01443 232000 Ffacs: 01443 232165
E-bost: Swyddfa’r_Wasg@decymru-tan.gov.uk
Gallwch ein Hoffi ar Facebook, ein Dilyn ar Twitter ein Gwylio ar Flickr a YouTube.