Ymladdwyr Tân yn dymuno Blwyddyn Newydd ddiogel i gymunedau Tsieineaidd 

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn dymuno Blwyddyn Newydd Dda a diogel iawn i’r gymuned Tsieineaidd. Wrth i gymunedau Tsieineaidd ar draws y byd ddathlu’r Flwyddyn Newydd ar 26 Ionawr, hoffai Ymladdwyr Tân atgoffa pawb i gymryd gofal.

Dywedodd Martin Henderson, Pennaeth Diogelwch Cymunedol,

Mae dathliadau’r Flwyddyn Newydd Tsieineaidd bob tro yn drawiadol a lliwgar, ond hoffwn atgoffa pawb i gymryd gofal ychwanegol wrth fwynhau.

Hoffai Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru i bawb gofio'r cyngor canlynol er mwyn eu diogelwch dros gyfnod dathlu’r Flwyddyn Newydd Tsieineaidd a thrwy gydol gweddill y flwyddyn yn ogystal:

  • Gosodwch larymau mwg sy’n gweithio ar bob lefel yn eich cartref. Bydd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn gosod y rhain am ddim yn ystod archwiliad diogelwch tân yn y cartref – ffoniwch 0800 169 1234 i drefnu.
  • Rhowch brawf ar eich larymau mwg yn wythnosol.
  • Cymrwch ofal mawr gyda thân gwyllt. Prynwch dân gwyllt sydd wedi’i farcio gyda Safon Diogelwch Prydeinig 7114 yn unig a darllenwch a dilynwch y cyfarwyddiadau bob tro.
  • Ar bob adeg, cadwch fflamau canhwyllau bellter diogel i ffwrdd o lenni, celfi ac addurniadau. Mae gwallt hir a dillad hefyd yn fflamadwy iawn. Cadwch fflamau allan o gyrraedd plant ac anifeiliaid. Dylid goruchwylio plant drwy’r adeg ar bwys fflamau.
  • Wrth goginio bwyd wedi’i ffrio’n ddwfn, sychwch ef cyn ei roi yn yr olew poeth. Os yw’r olew yn dechrau mygu, diffoddwch y gwres a gadael i’r sosban oeri. Peidiwch byth â llenwi’r sosban fwy na un rhan o dair gydag olew. Peidiwch byth â thaflu dŵr dros y sosban.
  • Diffoddwch a thynnwch blwg pob dyfais drydanol o’r wal oni bai eu bod wedi’u cynllunio i’w gadael ymlaen – fel eich rhewgell neu’r peiriant DVD, er enghraifft.
  • Diffoddwch a thynnwch blwg pob dyfais drydanol o’r wal, oni bai eu bod wedi’u cynllunio i’w gadael ymlaen – fel eich rhewgell neu beiriant DVD er enghraifft.
  • Ceisiwch osgoi gorlwytho socedi trydanol. Ceisiwch gofio, un plyg - un soced. Os oes rhaid i chi gael mwy o blygiau wedi’u cysylltu defnyddiwch addasydd gyda ffiws bob tro.

                  Manylion Cyswllt  




Ffôn: 01443 232000
Ffacs:
01443 232165

E-bost: Swyddfa’r_Wasg@decymru-tan.gov.uk 


Gallwch ein Hoffi ar Facebook, ein Dilyn ar Twitter ein Gwylio ar Flickr a YouTube.

Tudalen Wedi Ei Diweddaru Ar 16/3/2011
SWFRS