Bydd ymladdwyr tân ifainc o Orsaf Dân Malpas, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, yn dod ynghyd i gynnal golchfa ceir elusennol er budd Elusen yr Ymladdwyr Tân ac ymgyrch elusennol “I Serbia ar Dân”.
Ar Ddydd Sadwrn, Hydref y 1af, rhwng 10 y bore a 4 y prynhawn, ewch â’ch cerbyd i Orsaf Dân Malpas, Heol Malpas, Casnewydd a gwyliwch wrth iddynt wneud i’ch car SGLEINIO!!!
Dywedodd Steve Logan, Rheolwr Gorsaf, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, sy’n arwain ymgyrch elusennol “I Serbia ar Dân”, “Rydym yn gobeithio bydd y gymuned yn galw heibio i ddangos eu cefnogaeth i’r achos da hwn”Y gost yw £3.00 ar gyfer pob car - derbynir eich rhoddion yn garedig a bydd yr elw yn mynd tuag at Elusen yr Ymladdwyr Tân ynghyd ag ymgyrch elusennol “I Serbia ar Dân”.
Manylion Cyswllt
Ffôn: 01443 232000 Ffacs: 01443 232165
E-bost: Swyddfa’r_Wasg@decymru-tan.gov.uk
Gallwch ein Hoffi ar Facebook, ein Dilyn ar Twitter ein Gwylio ar Flickr a YouTube.