Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn ymbil ar bobl i dderbyn eu Cyngor Diogelwch Tywydd Gaeafol, yn ngoleuni’r tywydd gwael posib.
Llynedd, derbyniodd Weithredwyr Rheoli Tân nifer o alwadau i ddigwyddiadau lle cafodd pobl eu dal allan yn yr eira a’r amodau rhewllyd ac rydym yn paratoi i ddelio ag amodau prysur pellach eleni.
Dywed Prif Swyddog Tân Dros Dro Huw Jakeway:“Mewn cyfnodau o dywydd gwael gofynnwn i bobl fod yn eithriadol o wyliadwrus er mwyn sicrhau eu diogelwch ac i roi sylw i unrhyw gyngor a roddwyd i gadw dan do ac osgoi teithiau dianghenraid."Tra’n aros yn eu tai yn ystod y tywydd oer, mae’n debygol y storiwyd gwresogyddion ychwanegol ac o bosib caiff canhwyllau eu defnyddio. Os byddwch yn gwneud hyn, a fyddech cystal â sicrhau na fyddwch yn lleoli rhain yn rhy agos i eitemau eraill gall gynnau o bosib, fel llenni, dillad neu ddarnau o ddodrefn. "Dylid lleoli canhwyllau yn sicr o fewn eu dalwyr ar wyneb gwastad, diogel sy’n ymwrthiannol i wres fel plat, ac ni ddylid byth eu gadael yn ddioruchwiliad."
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn awgrymu’r canlynol:
Adroddiadau Tywydd
Cadwch lygad ar adroddiadau tywydd teledu lleol neu sianelau newyddion radio. Peidiwch â theithio mewn stormydd eira trymion onibai ei fod yn gwbl angenrheidiol.
Teulu a Chymdogion
Cymrwch ofal o’ch teulu a’ch cymdogion hŷn er mwyn sicrhau eu bod yn cadw’n ddiogel a chynnes.
Afonydd, llynoedd a phyllau wedi rhewi
Peidiwch â cheisio cerdded ar hyd llynoedd ac afonydd a rewodd. Tra fydd yr iâ yn ymddangos yn gryf ac yn medru cynnal pwysau, gall dyfu’n denau iawn yn ddigon sydyn. Gall yr arwynebedd dorri a sigo’n ddigon rhwydd, a gall unigolion gwympo drwyddo. Mae’n bosib bydd y canlyniadau yn angeuol. Dylid cadw cŵn o dan reolaeth, ar dennynau, pan cânt weithgaredd corfforol ger dŵr a’u cadw rhag cerdded ar yr iâ neu fentro i’r dŵr yn ystod y tywydd oer. Mae llynoedd a phyllau wedi’u rhewi yn hynod beryglus. Pe byddwch yn gweld rhywun neu eich anifail anwes yn syrthio drwy’r iâ a mynd i drafferth, peidiwch byth â cheisio eu hachub eich hun. Yn hytrach, ffoniwch 999 ar eich union.
Gyrru Gaeafol
Mae angen i yrrwyr dalu gofal manwl ar y ffyrdd yn ystod y gaeaf a medru addasu i amodau newidiol. Gall hyd yn oed y gyrrwyr mwyaf profiadol ganfod eu hunain mewn anhawster pan mae’r lonydd yn rhewllyd. Holwch eich hun a ydy eich siwrne wir yn angenrheidiol.
Cyn i chi gychwyn ar eich siwrne:
Os bydd rhaid i chi deithio mewn tywydd gaeafol, cofiwch:Gyrrwch yn hynod o ofalus drwy osgoi unrhyw weithredoedd sydyn, gan y gall rhain achosi i chi golli rheolaeth:
Os ewch yn sownd yn yr eira:
Manylion Cyswllt
Ffôn: 01443 232000 Ffacs: 01443 232165
E-bost: Swyddfa’r_Wasg@decymru-tan.gov.uk
Gallwch ein Hoffi ar Facebook, ein Dilyn ar Twitter ein Gwylio ar Flickr a YouTube.