Ydych chi’n defnyddio gwasanaethau Cymraeg, mynd i ddigwyddiadau Cymraeg ac eisiau defnyddio’r Gymraeg ym mywyd pob dydd?
Mae Grŵp Deddf (partneriaeth o Swyddogion Iaith Gymraeg a Chydraddoldeb awdurdodau lleol De Cymru), ar y cyd â Mentrau Iaith De Ddwyrain Cymru, am gael barn pobl leol am wasanaethau Cymraeg.
Mae’r holiadur ar-lein yn gofyn barn, profiad ac anghenion dysgwyr a siaradwyr Cymraeg yng nghyswllt delio â sefydliadau cyhoeddus megis awdurdodau lleol a sefydliadau eraill megis mentrau iaith lleol.
Mae Grŵp Deddf a’r Mentrau Iaith yn awyddus fod pobl yn llenwi’r holiadur er mwyn cael gwir ddarlun o ofynion gwasanaethau Cymraeg y cyhoedd.
Dwedodd un o swyddogion iaith Grŵp Deddf -
Mae nifer fawr o sefydliadau cyhoeddus yn darparu gwasanaethau amrywiol trwy gyfrwng y Gymraeg ac mae'r holiadur hwn yn ymdrech ar ran nifer ohonom i dderbyn gwir farn y cyhoedd am ein gwaith. Mae hefyd yn gyfle i bobl ddweud wrthym beth sydd angen arnynt a bydd hyn yn ein helpu i flaenoriaethu, ac yn codi ymwybyddiaeth y cyhoedd am ein cynlluniau iaith.
Bydd yr holiadur ar gael ar-lein yn www.deddf-holiadur2011.org.uk nes 11 Mawrth 2011.
Partneriaid yr holiadur:
Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent, Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tydfil, Cyngor Sir Fynwy, Cyngor Dinas Casnewydd, Cyngor Caerdydd, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, Coleg Gwent, Menter Iaith Caerffili, Menter Iaith Rhondda Cynon Taf, Menter Iaith Blaenau Gwent, Torfaen a Mynwy, Menter Merthyr Tudful, Menter Caerdydd, Grŵp DEDDF – Grŵp swyddogion iaith sefydliadau cyhoeddus DE DDwyrain Fwyaf
Manylion Cyswllt
Ffôn: 01443 232000 Ffacs: 01443 232165
E-bost: Swyddfa’r_Wasg@decymru-tan.gov.uk
Gallwch ein Hoffi ar Facebook, ein Dilyn ar Twitter ein Gwylio ar Flickr a YouTube.