GTADC yn rhagnodi diogelwch tân fel ffordd o iachâu 

Mae’r tri Gwasanaeth Tân ac Achub yng Nghymru yn ymuno â’n partneriaid Fire Angel ar gyfer ymgyrch newydd bydd yn gweld negeseuon diogelwch tân wedi’u hargraffu ar fagiau fferyllfa ar hyd a lled y wlad.

Ymwelodd y Gwasanaethau Tân ac Achub Cymreig â mwy na 2,000 o danau mewn tai Cymreig y llynedd, ac er mawr syndod, mewn mwy na hanner y cartrefi hyn darganfuwyd naill ai nad oedd larwm mwg wedi’i ffitio o gwbl neu bod larwm wedi’i ffitio ond nad oedd yn gweithio’n iawn, neu ei fod wedi methu â synhwyro’r tân. 

Yn y flwyddyn ariannol 2010/2011, yn achos 422 o’r 752 o dai yn Ne Cymru a ddioddefodd achos o dân damweiniol, darganfuwyd nad oedd larymau mwg wedi’i ffitio. Yn ryfeddol, yn achos 110 o’r tai a ddioddefodd achos o dân damweiniol lle roedd ganddynt larymau mwg, ni chafwyd rhybudd gan fod eu larymau ddim yn gweithio – yn aml oherwydd bod batris y larymau mwg wedi’u tynnu ymaith neu bod y larwm ei hun ddim yn gweithio yn iawn.

Mae FireAngel yn gweithio mewn partneriaeth â’r tri Gwasanaeth Tân ac Achub Cymreig i amlygu pwysigrwydd larymau mwg gweithredol drwy ddefnydd bagiau presgripsiwn a ddosberthir gan y fferyllfeydd lleol.

Fel yr esbonia Nick Rutter o Sprue Safety Products, y cwmni sy’n cynhyrchu larymau mwg FireAngel :

“Y cam symlaf gall unrhywun ei gymryd i warchod eu hunain, eu ceraint a’u cartrefi rhag tân yw i ffitio larwm mwg sy’n gweithio”.

Mae’r ymgyrch newydd, sy’n para pedair wythnos, yn cael ei lansio ar y 17eg o Hydref gyda 179 o fferyllfeydd ynghlwm ac fe argraffir 179,000 o fagiau fferyllfa ag arnynt gyngor a all o bosib achub bywydau.

Bydd y bagiau yn amlygu’r geiriau – “Mae larymau Mwg yn achub bywydau – ydych chi wedi profi eich larwm mwg yr wythnos hon? Cofiwch, gall meddyginiaeth eich gwneud chi’n gysglyd”, law yn llaw â llun o Ymladdwyr Tân yr ardal leol.

Dywedodd Andy Marles, Prif Swyddog Tân, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru;

“Dyma enghraifft bellach o bartneriaeth waith arloesol ac ardderchog. Mae gwarchod ein trigolion yn greiddiol i’r hyn yr ydym yn ei wneud – a ffordd arall yw’r ymgyrch bagiau fferyllfa i drosglwyddo ein negesuon pwysig.

“Bydd yr ymgyrch unedig yn gweld trigolion yn codi eu presgripsiynau ac yn dychwelyd adre gyda chyngor pwysig yn ogystal. Bydd canran sylweddol o’r rhai sy’n derbyn presgripsiwn yn henoed neu yn unigolion archolladwy – ac mae’r wybodaeth yn fwy arwyddocaol fyth iddynt hwy. Llawer o’r unigolion hynny sydd angen ein cyngor yw’r rhai anoddaf i’w cyrraedd, felly gobeithiwn bydd yr ymgyrch yn ein cynorthwyo i gyfathrebu â hwy.

“Fodd bynnag, mae’r wybodaeth yr ydym yn ei ryddhau yn berthnasol i bawb o fewn y gymuned -  gall tân daro unrhywun ar unrhyw adeg, ac mae’n bwysig bod gan bob un o’n trigolion larymau mwg gweithredol wedi’u ffitio ac mae angen eu profi yn rheolaidd.

“Gobeithiaf y bydd pob un o’r trigolion yr ydym yn cyrraedd yn derbyn y cyngor a ragnodir bydd yn eu cadw mor ddiogel â phosib yn eu cartrefi.”

Dywedodd Vaughan Jenkins, Rheolwr Grŵp, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru;

“Rydym yn hapus ein bod yn cydweithio gyda’n partner Fire Angel a’r ddau Wasanaeth Tân ac Achub arall yng Nghymru, drwy ddarparu bag fferyllfa a ellir ei ddefnyddio drachefn sy’n cynnwys neges diogelwch tân fydd yn atgoffa perchnogion tai o bwysigrwydd profi eu larymau mwg yn rheolaidd”.

                  Manylion Cyswllt  




Ffôn: 01443 232000
Ffacs:
01443 232165

E-bost: Swyddfa’r_Wasg@decymru-tan.gov.uk 


Gallwch ein Hoffi ar Facebook, ein Dilyn ar Twitter ein Gwylio ar Flickr a YouTube.

Tudalen Wedi Ei Diweddaru Ar 11/10/2011
SWFRS