Cyfle ffilmio cyfryngol/ffotograffiaeth/cyfweliadau 

Gwasanaethau Tân ac Achub Cymru yn rhagnodi diogelwch tân fel ffordd o iachâu

Cyfle ffilmio cyfryngol/ffotograffiaeth/cyfweliadau

Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn dosbarthu’r bag fferyllfa “diogelwch tân” cyntaf

Dydd Llun 17eg o Hydref am 10.30am
Fferyllfa A.E. Petersen, Abercarn

Filmio, lluniau a chyfweliadau gyda:

Vaughan Jenkins, Rheolwr Grŵp, Diogelwch Cymunedol a Phartneriaethau, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru

Criw Gorsaf Dân Abercarn

Personél Fferyllfa

I ddatgan diddordeb, cysylltwch â thîm y Wasg Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru:

FFONIWCH RACHEL MCCOY AR 01443 232277
r-mccoy@southwales-fire.gov.uk


Cefndir
Gwasanaethau Tân ac Achub Cymru yn rhagnodi diogelwch tân fel ffordd o iachâu
Mae’r tri Gwasanaeth Tân ac Achub yng Nghymru yn ymuno â’n partneriaid Fire Angel ar gyfer ymgyrch newydd bydd yn gweld negeseuon diogelwch tân wedi’u hargraffu ar fagiau fferyllfa ar hyd a lled y wlad.

Mae’r ymgyrch newydd, sy’n para pedair wythnos, yn cael ei lansio ar y 17eg o Hydref gyda 179 o fferyllfeydd ynghlwm ac fe argraffir 179,000 o fagiau fferyllfa ag arnynt gyngor a all o bosib achub bywydau.

Dywedodd Andy Marles, Prif Swyddog Tân, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru;

“Dyma enghraifft bellach o bartneriaeth waith arloesol ac ardderchog. Mae gwarchod ein trigolion yn greiddiol i’r hyn yr ydym yn ei wneud a ffordd arall yw’r ymgyrch bagiau fferyllfa i drosglwyddo ein negesuon pwysig.

 

                  Manylion Cyswllt  




Ffôn: 01443 232000
Ffacs:
01443 232165

E-bost: Swyddfa’r_Wasg@decymru-tan.gov.uk 


Gallwch ein Hoffi ar Facebook, ein Dilyn ar Twitter ein Gwylio ar Flickr a YouTube.

Tudalen Wedi Ei Diweddaru Ar 14/10/2011
SWFRS