Ar Ddydd Llun, Rhagfyr y 5ed 2011, bydd dau ymladdwr tân o Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru (GTADC) yn cychwyn o Ynys La Gomera (Yr Ynysoedd Dedwydd) i ymgymryd â’r her anhygoel “Herio’r Iwerydd”. Bydd yr Ymladdwyr Tân John Haskell a Jamie Windsor o Orsafoedd Tân Caerdydd yn ceisio rhwyfo dros 3000 milltir ar draws Fôr yr Iwerydd i godi arian ar gyfer amryw o achosion da. Ar hyn o bryd, mae’r ddeuawd yn rhwyfo yn gwbl ddigefnogaeth mewn bad dosbarth ‘Woodvale Pairs’, a gynlluniwyd yn benodol ar gyfer y ras, sy’n mesur ond 7 metr (23.4tr) o hyd a 1.9m (6.3tr) o led.
Disgwylir i John a Jamie groesi Môr yr Iwerydd mewn o gwmpas 3 mis, gan gyrraedd Ynys Barbados ym Mis Chwefror 2012. Her anhygoel fydd hwn i godi llawer iawn o arian ar gyfer rhai achosion da gwerth chweil.
I ddilyn eu taith, ymwelwch â: www.taliskerwhiskyatlanticchallenge.com/team/atlantic-dash
(Ar gael yn Saesneg yn unig)
Manylion Cyswllt
Ffôn: 01443 232000 Ffacs: 01443 232165
E-bost: Swyddfa’r_Wasg@decymru-tan.gov.uk
Gallwch ein Hoffi ar Facebook, ein Dilyn ar Twitter ein Gwylio ar Flickr a YouTube.