Awdurdod Tân ac Achub De Cymru yn cyhoeddi Cadeirydd
Mae Awdurdod Tân ac Achub De Cymru yn falch i gyhoeddi bod Y Cynghorydd Anthony Ernest, Bro Morgannwg, wedi’i ail-ethol fel Cadeirydd yr Awdurdod ar gyfer y flwyddyn i ddod. Cafodd ei ethol ar gyfer y swydd yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol Awdurdod Tân ac Achub De Cymru ar Fehefin 6 ynghyd â’r Cynghorydd Keith Hyde, Caerdydd a gafodd ei ail-ethol fel Is-gadeirydd yr Awdurdod.
Dywedodd y Cynghorydd Ernest, “Rwy’n hynod falch i gael fy ail-ethol i Awdurdod rwyf wedi gwasanaethu arno am saith mlynedd. Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn sefydliad sy’n perfformio’n uchel ac sy’n helpu miloedd o aelodau’r cyhoedd pob dydd pan fyddant yn dod i gysylltiad â’r risgiau a’r peryglon y mae nifer ohonom yn eu hwynebu yn ystod ein bywydau. Mae bod yn Gadeirydd sefydliad o’r fath yn anrhydedd mawr wrth i ni symud y Gwasanaeth ymlaen a pharhau gyda chyflawni’r gwaith arbennig y mae’n ei wneud.”
Dechreuodd Anthony Ernest ar ei yrfa o fewn Llywodraeth Leol ym 1974 pan gafodd ei ethol am y tro cyntaf i Gyngor Tref Penarth, roedd yn Faer ym 1980, gan gael ei ail-ethol pob pedair blynedd hyd nes 1995, gan ddychwelyd ym 1999 ac y mae dal yno heddiw. Bu hefyd yn Gadeirydd (Maer) Cyngor Bro Morgannwg yn 2000, ac yn Llefarydd yr Wrthblaid ar faterion Gwasanaeth Tân i Gyngor Sir De Morgannwg gynt rhwng 1993-96.
Hefyd wedi’u hail-ethol heddiw oedd Y Cynghorydd R. Greenland (Trefynwy) fel Cadeirydd Is-bwyllgor Cyllid, Archwilio a Rheoli Perfformiad Awdurdod Tân ac Achub De Cymru a’r Cynghorydd C. Mann (Caerffili) fel Is-cadeirydd. Cafodd Y Cynghorydd R. Mckerlich (Caerdydd) ei ail-ethol fel Cadeirydd yr Is-bwyllgor Adnoddau Dynol a Chydraddoldebau a’r Cynghorydd John Daniels fel Is-cadeirydd Adnoddau Dynol a Chydraddoldebau.