Seminar Diogelwch Tân ar Gyfer Pobl Hŷn a Phobl Anabl 

Ble

 

Ym Merthyr yng Nghanolfan Orbit 10am–3pm Mawrth 11 2010

Yng Nghaerdydd yn Neuadd Sir Caerdydd 10am–3pm Mawrth 23 2010

Ffoniwch neu e-bostiwch ni i archebu eich lle erbyn 18 Chwefror 2010

Rhif Ffôn: 01443 232000

E-bost: swfs@southwales-fire.gov.uk

Minicom: 01443 232060

Bydd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn cynnal y seminarau uchod ar y cyd â Chynghrair Pobl Anabl Caerdydd a’r Fro, Age Concern Cymru a Help the Aged Cymru. Bydd y seminarau yn darparu cyngor a chanllawiau ar ddiogelwch tân yn y cartref, beth y dylech ei ddisgwyl yn y gwaith yn ogystal â diogelwch tân ar gyfer busnesau. Mae’r seminarau, sy’n cynnwys cinio yn hollol rhad ac am ddim.

I gael rhagor o wybodaeth am yr hyn yr ydym yn ei wneud ar gyfer pobl hŷn a phobl anabl ac i weld ein hamcanion cydraddoldeb ac amrywiaeth ewch i www.decymru-tan.gov.uk/gydraddoleb

Diogelwch Tân Busnes

Daeth y Gorchymyn Diogelwch Tân i rym ar 1 Hydref 2006 ac ers hynny mae wedi bod yn strategaeth i GTADC geisio hysbysu pob grŵp yn y gymuned ynghylch y ddeddfwriaeth, sut mae’n effeithio eu busnes a’r hyn y mae angen iddynt ei wybod yn arbennig. Mae nifer o feysydd wedi newid yn sylweddol a dylai perchnogion a rheolwyr fod yn ymwybodol o’r newidiadau hyn os ydynt mewn busnes neu os ydynt yn cyflogi pobl eraill, yn enwedig os mai chi yw’r ‘person cyfrifol’ sydd â chyfrifoldeb dros iechyd a diogelwch eraill petai yna dân.

  • Os ydych yn berchen neu’n rheoli adeilad neu fusnes yna mae’n bosib fod y Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) yn berthnasol i chi.
  • Mae’n berthnasol i’r rhan fwyaf o adeiladau a gweithleoedd yn y DU. Nid oes llawer o eithriadau.

Y Person Cyfrifol - Fel person cyfrifol, rhaid i chi sicrhau diogelwch eich gweithwyr ac unrhyw berson all ddod ar eich eiddo yn gyfreithlon ac unrhyw berson arall nad ydynt ar eich eiddo allai gael eu heffeithio. Os ydych yn rhannu cyfrifoldeb gyda phobl eraill, (e.e. adeilad cyfagos, Tenant / Landlord neu adeilad amldenantiaeth) rhaid i chi gydweithredu drwy rannu gwybodaeth a chydweithio drwy ddarparu mesurau.

 

Dilynwch y ddolen ganlynol am ragor o wybodaeth: www.decymru-tan/busnes

Diogelwch Tân yn y Cartref

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn cynnig cyfle i chi dderbyn Archwiliad Diogelwch Tân AM DDIM yn eich cartref, gan ymladdwyr tân o’ch gorsaf dân leol. Mae’r archwiliad yn cymryd tua 30 munud a byddwn yn darparu ac y gosod larymau mwg am ddim lle bydd eu hangen. Mae ymweliadau a larymau mwg arbenigol ar gael i bobl sydd â nam ar eu clyw.

Wrth i chi drefnu Archwiliad Diogelwch Tân yn y Cartref bydd ymladdwyr tân yn trefnu amser cyfleus i ymweld â’ch cartref er mwyn cynnal archwiliad, gan edrych am beryglon tân. Byddant yn rhoi cyngor sy’n achub bywydau ar ganfod peryglon tân yn y cartref, beth i wneud petai yna dân yn y cartref, a sut i wneud cynllun dianc mewn tân.

Mae gan eich Gwasanaeth Tân ac Achub wir ddymuniad i wella diogelwch pobl hŷn a phobl anabl o fewn y gymuned a hyrwyddo neges diogelwch tân yn eglur er mwyn sicrhau fod pawb yn ddiogel, ac yn aros yn ddiogel.

Cysylltwch â ni

                 Manylion Cyswllt

 

Cyfeiriad
Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru
Parc Busnes Fforest View
LLANTRISANT
CF72 8LX

Ffôn:  01443 232000
Ffacs: 01443 232180
E-Bost:
GTDC@decymru-tan.gov.uk

Ymweliad Diogelwch Tân yn y Cartref

               Ymweliad Diogelwch Tân
               yn y Cartref

Ffôn am dim ar 0800 169 1234

Llanwch y ffurflen cofrestri ar lein

E-bost: Diogelwch Tân yn y Cartref 
Testun
: 88365 [
Canllaw]

Gwybodaeth Defnyddiol

Cysylltiadau Defnyddiol

Cardiff and Vale Coalition of Disabled People

Age Concern Cymru

Help the Aged in Wales

Tudalen Wedi Ei Diweddaru Ar 16/3/2011
SWFRS