Ar Ddydd Mawrth y 6ed o Fedi, am 12.00 hanner dydd yn Ystad Billy Banks, Heol Highview, Penarth CF64 1HU, bydd Uned Troseddau Tân Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru (GTADC) yn lansio ei gymhwysiad i-phone dwyieithog. Dyma’r un cyntaf o’i fath i gael ei ddatblygu gan Wasanaeth Tân ac Achub yn y Deyrnas Unedig.
Dywedodd Cadeirydd Awdurdod Tân ac Achub De Cymru, Y Cynghorydd Anthony Ernest ac Andy Marles, Prif Swyddog Tân Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru;
“Rydym yn falch iawn mai Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yw’r Gwasanaeth Tân ac Achub cyntaf i ddatblygu’r cymhwysiad iPhone dwyieithog, unigryw hwn. Mae’n rhoi cyfle i’n cymunedau ddod o hyd i gymorth a gwybodaeth mewn modd arloesol, sy’n enghraifft arall o sut mae’r Gwasanaeth yn parhau i gwrdd â gofynion cynulleidfa’r unfed ganrif ar hugain”.
Mae Uned Troseddau Tân Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn gyfrifol am ddelio â materion gosod tanau’n fwriadol, gan gynnwys deall pam mae’n digwydd, darganfod beth yw achosion llosgi bwriadol, darganfod lle all y math yma o danau ddigwydd, a chynorthwyo’r Heddlu wrth iddynt arestio’r bobl gyfrifol.
Mae wedi dod yn fwy ac yn fwy amlwg bod cyswllt rhwng ymosodiadau llosgi bwriadol a thrais domestig.
Felly, mae’r Uned Troseddau Tân (UTT) yn rhoi llawer o gymorth i ddioddefwyr trais domestig ac yn gweithio’n galed i leihau’r nifer o ddigwyddiadau yma yn Ne Cymru. Mae’r UTT yn gweithio’n agos iawn gydag asiantaethau partner i dargedu grwpiau penodol (Dioddefwyr Troseddau Casineb a Thrais Domestig) sydd ar risg mwy o danau bwriadol a damweiniol, er mwyn gwneud iddnyt deimlo’n fwy diogel yn eu cartrefi eu hunain.
Drwy ddatblygu’r cymhwysiad i-phone, mae’r UTT wedi rhoi modd i bobl sydd â phryderon ynglŷn â llosgi bwriadol a thrais domestig gael gafael ar wybodaeth berthnasol ac adrodd yn ddi-enw am dramgwyddwyr potensial llosgi bwriadol neu drais domestig.
I lawrlwytho eich cymhwysiad iPhone Uned Troseddau Tân GTADC AM DDIM chwiliwch Uned Troseddau Tân De Cymru. http://itunes.apple.com/lk/app/south-wales-fire-crime-unit/id459417012?mt=8
Dywedodd Mick Flanagan, Rheolwr Grŵp Archwilio Tân a Throseddau Tân, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru;
“Mae hwn yn gymhwysiad iPhone dwyieithog, unigryw ymhlith gwasanaethau tân ac achub y DU. Gall unrhyw un sydd â phryderon ynglŷn â llosgi bwriadol a thrais domestig yn ardal De Cymru lawrlwytho’r cymhwysiad hwn yn rhad ac am ddim er mwyn cael gafael ar wybodaeth ac adrodd yn ddi-enw am dramgwyddwyr potensial llosgi bwriadol neu drais domestig”.
“Rydw i, a staff eraill Uned Troseddau Tân GTACD, yn gobeithio’n fawr y bydd pawb yn cefnogi’r cymhwysiad unigryw hwn ac edrychwn ymlaen at ei arddangos ac esbonio’i weithrediadau yn y lansiad ar Ddydd Mawrth y 6ed o Fedi, am 12.00 hanner dydd yn Ystad Billy Banks, Heol Highview, Penarth CF64 1HU.”
Manylion Cyswllt
Ffôn: 01443 232000 Ffacs: 01443 232165
E-bost: Swyddfa’r_Wasg@decymru-tan.gov.uk
Gallwch ein Hoffi ar Facebook, ein Dilyn ar Twitter ein Gwylio ar Flickr a YouTube.