Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn cefnogi Wythnos Diogelwch ar y Ffyrdd yr elusen cenedlaethol Brake 

 


Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn cefnogi Wythnos Diogelwch ar y Ffyrdd yr elusen cenedlaethol Brake fis Tachwedd hyn drwy rhyddhau hysbyseb radio ddeifiol ar Capital FM.

Yn yr hysbyseb, ymbilir ar y gwrandawyr i beidio ildio i demtasiwn drwy ddanfon neges destun tra’n gyrru, gan y gallai rhywun gael ei ladd.

Rhwng Ebrill y 1af 2010 a Mawrth yr 31ain 2011, cofnodwyd 6856 o wrthdrawiadau ar y ffordd ar draws Cymru gyda’r gwasanaethau argyfwng yn gorfod delio â golygfeydd erchyll. 

O’r 6856 gwrthdrawiad hyn, lladdwyd 89 o bobl, anafwyd 998 yn ddifrifol ac fe anafwyd 8868 o bobl yn llai difrifol.

Pwnc wythnos ymwybyddiaeth eleni, a gynhelir rhwng yr 21 ain a’r 25ain o Dachwedd, yw
“Rhy ifanc i Farw” sef cynnyrch meddwl yr elusen cenedlaethol Brake, sy’n bodoli i wella diogelwch ar y ffyrdd yn y DG.

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn cynnal ac yn trefnu digwyddiadau ar hyd y flwyddyn er mwyn hyrwyddo diogelwch ar y ffyrdd, ac yn ystod Wythnos Diogelwch ar y Ffyrdd eleni, byddwn yn mynd ag ymgyrchoedd ‘Yr Effaith Domino’, ‘Opsiynau’ a ‘ Criwsio’ i golegau ar draws ardal De Cymru.

Dywedodd Neil Brown, Pennaeth Diogelwch ar y Ffyrdd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru;

“Rydym yn cydweithio’n agos â’n cymunedau ar hyd y flwyddyn er mwyn cynnig cyngor ar nifer o faterion diogelwch sy’n eu heffeithio nhw. Mae diogelwch ar y ffyrdd yn allweddol i’n trafodaethau yn barhaus, yn enwedig felly mewn perthynas â phobl ifanc sydd mewn mwyaf o beryg yn ystadegol. Mae’n gwneud synnwyr i ni gefnogi Wythnos Diogelwch ar y Ffyrdd, sy’n amlygu’r peryglon hyn i yrrwyr ifanc.

Mae’r digwyddiadau hyn yn enwog am yrru tonnau o syndod drwy deuluoedd agos, perthnasau a’r cymunedau lleol.  “Mae rhai o’r digwyddiadau a fynychir gan Ymladdwyr Tân De Cymru yn erchyll, a gorau po leiaf y nifer o bobl sy’n gorfod diodde’r trawma o golli rhywun o dan amgylchiadau trasig fel hyn.”

Fodd bynnag, mae’r digwyddiadau hyn yn rhwystradwy, ac yn fwy aml na pheidio, feu’i hachosir gan berson sy’n gyrru’n rhy gyflym, gyrru’n beryglus, gyrru tra’n defnyddio ffôn symudol, gyrru tra’n dioddef effeithiau cyffuriau neu alcohol, neu drwy deimlo’n flinedig tra’n gyrru, a gyrrwyr a theithwyr nad sy’n gwisgo gwregysau.

Drwy ddarparu ymgyrchoedd “Yr Effaith Domino” ‘Opsiynau’ a ‘Criwsio’ i golegau’r ardal, bydd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn codi ymwybyddiaeth o’r ffaith taw gwrthdrawiadau ar y ffyrdd yw’r lladdwr mwyaf ymhlith pobl ifanc. Yn ystod yr Wythnos Diogelwch ar y ffyrdd hon, bydd GTADC yn annog pobl ifanc i gadw golwg barcud ar eu hunain a’u ffrindiau, boed yn yrrwyr neu’n deithwyr, a chodi llais yn erbyn ymddygiad gyrru peryglus.

Mae gan Ymladdwyr Tân rôl bwysig wrth achub clwyfedigion caeth, darparu cymorth cyntaf a sicrhau diogelwch ar leoliad diwgyddiadau, a byddwn yn dymuno gweld lleihad yn nifer y gwrthdrawiadau a’r bobl a gafodd eu hanafu.

Cliciwch yma i wrando ar yr hysbyseb radio ddeifiol

Ymgyrch ‘Opsiynau’
Defnyddir hyn i addysgu’r cyhoedd sut byddai newidiadau bychain i’w gyrru yn medru cadw eu hunain ac eraill yn fyw.

Lleolir heddweision y tu allan i Orsafoedd Tân o fewn trefi a dinasoedd sydd â rhai o’r lefelau uchaf o wrthdrawiadau traffig ar y ffyrdd, yn ystadegol, yn Ne Cymru. Yna, bydd yr heddweision hyn yn atal unrhyw yrrwyr a welir sy’n ymatal rhag gwisgo gwregysau, gan gynnig dewis iddynt:

Opsiwn 1: Gall y troseddwr gytuno i dalu’r ddirwy cosb benodedig neu

Opsiwn 2:  Gall y troseddwr fynychu Gorsaf Dân a gwylio cyflwyniad deg munud o hyd ar ganlyniadau distrywiol ymatal rhag gwisgo gwregys.

Car Criwsio Tân
Y Car Criwsio Tân yw’r dull newydd deinamig o ymgysylltu â’n grŵp targed o yrrwyr ifanc. Adnabyddwyd y Ford Focus ST fel un o’r ceir mwyaf poblogaidd i’w defnyddio fel arf atyniad. Mae hyn yn ein galluogi i ymgysylltu â’n grŵp mwyaf mewn peryg ar eu ‘tir cartref’ ac o fewn cyfarfodydd ceir a drefnwyd yn lleol.   Mae criwswyr lleol, a adnabyddir hefyd fel ‘crwt raswyr’, yn syrthio i’r grŵp targed hwn, a thrwy ymwchil a brofwyd, gwybodaeth lleol ac ymgynghori â’r Criwswyr eu hunain, ffurfiwyd prosiect ‘Criwsio’. Mae’r car yn gweithredu fel ‘arf sy’n torri’r iâs’ a thrwy hynny yn ein galluogi i ymgysylltu â ac addysgu gyrrwyr a theithwyr ifanc mewn dull mwy ymlaciedig, ac o fewn awyrgylch lle byddant yn teimlo’n gyfforddus.  

Pwrpas y prosiect yw cynyddu gwybodaeth pobl ifanc am ganlyniadau ymddygiad gwrthgymdeithasol, yn enwedig pan y’i cyfunir â diffyg profiad. Y bwriad yw i gynorthwyo newid agwedd y math hwn o yrru tra ar yr un pryd lleihau ymhellach nifer y marwolaethau ac anafiadau o achos damweiniau ar y ffyrdd i bobl ifanc yng Nghymru.

‘Domino’
Arf Addysgol deifiol yw’r ‘Effaith Domino’ a grëwyd gan Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru gyda’r bwriad o addysgu gyrrwyr newydd a phobl ifanc o’r effaith y gall un gwrthdrawiad traffig ar y ffordd ei gael ar amryw o fywydau.

Mae Tîm Diogelwch ar y Ffyrdd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn bwriadu darparu’r cyflwyniad ‘Yr Effaith Domino’ i bobl ifanc o oedran 15 ac i fyny ar hyd a lled De Cymru gyfan. Bwriad y neges yw i ystyried yr effaith y gall gwrthdrawiad traffig ar y ffordd ei gael arnyn nhw, eu teuluoedd a’u cyfeillion. Trafodir materion fel; gyrru’n gyfrifol, anogaeth gweithredol i beidio byth â defnyddio ffôn symudol tra’n gyrru, anogaeth i wisgo gwregys ar bob achlysur, i beidio â thorri’r cyfyngiad ar gyflymder ac i beidio byth â gyrru ac yfed. Mae’r cyflwyniad yn cynnwys hysbysebion teledu, delweddau a gwybodaeth digyfaddawd.

Gweithgareddau a gynllunir

21ain Tachwedd
Coleg Caerdydd a’r Fro, (Ysgol Mecanyddion) Effaith Domino & Car Criwsio Focus 0900-1600awr
Opsiynau Abercarn 0800-1600awr

22ain Tachwedd
Coleg Gwent Brynbuga, Effaith Domino & Car Criwsio Focus,0900-1600awr
Opsiynau Tonypandy 0800-1600awr

23ain Tachwedd
Coleg Gwent Glyn Ebwy, Effaith Domino & Car Criwsio Focus 0900-1600awr
Reidio Allan – Reidio’n Gywir  YWA Sain Tathan, 0900-1600awr

24ain Tachwedd
Coleg Gwent Casnewydd, Effaith Domino & Car Criwsio Focus, 0900-1600awr
Opsiynau Y Barri,0800-1600awr
Ffocws YWA St Athens  1730-2030awr

25ain Tachwedd
Coleg Caerdydd a’r Fro, (Ysgol Mecanyddion) Effaith Domino & Car Criwsio Focus 0900-1600awr
Opsiynau New Inn 0800 -1600awr

                  Manylion Cyswllt  




Ffôn: 01443 232000
Ffacs:
01443 232165

E-bost: Swyddfa’r_Wasg@decymru-tan.gov.uk 


Gallwch ein Hoffi ar Facebook, ein Dilyn ar Twitter ein Gwylio ar Flickr a YouTube.

Tudalen Wedi Ei Diweddaru Ar 22/11/2011
SWFRS