GTADC yn lansio Tudalen Facebook a Twitter 

Ar Ddydd Gwener y 23ain o Fedi, yn Ffair Glasfyrfyrwyr Prifysgol Morgannwg, bydd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru (GTADC) yn lansio ei dudalennau Facebook a Twitter newydd sbon.

Mae GTADC wedi lansio ei dudalennau Facebook a Twitter er mwyn helpu pobl cysylltu â’u Gwasanaeth Tân ac Achub mewn modd mwy rhyngweithiol a chyfleus.

Yn ystod y lansiad, ac am wythnos wedyn, gall ymwelwyr i dudalennau Facebook a Twitter GTADC geisio ennill IPAD 2.  I roi cais i’r gystadleuaeth, ‘Hoffi’ tudalen Facebook GTADC neu ddilyn GTADC ar Twitter a chwblhau’r cwis ar ein tudalen Facebook.

Trwy ymweld â’r tudalennau yma gall ddefnyddwyr Facebook a Twitter ar draws yr wlad gael gafael ar y newyddion diweddaraf, cyngor am ddiogelwch tân a diogelwch ar y ffyrdd, y diweddaraf ar ymgyrchoedd cymunedol a recriwtio yn ogystal â chysylltu â’r Gwasanaeth yn uniongyrchol.

Dywedodd Andy Marles, Prif Swyddog Tân, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru ;

"Mae ein tîm Cyfryngau a Chyfathrebiadau wedi adnabod y cynnydd ym mhoblogrwydd rhwydweithio cymdeithasol ymhlith pobl yn Ne Cymru ac ar draws y byd i gyd, a theimlwn y bydd cael presenoldeb ar Facebook a Twitter yn gweithio’n dda iawn ochr wrth ochr â’r ffyrdd traddodiadol o gyfathrebu yr ydym yn eu defnyddio yn barod."

“Rydym yn awyddus iawn bod ein cymunedau lleol yn gallu cyfathrebu â ni mewn modd sy’n fwy cyfleus iddyn nhw ac mae rhwydweithio cymdeithasol yn caniatáu i hwn ddigwydd. Mae’n bwysig i ni ein bod yn cyhoeddi gwybodaeth yn y lleoedd mwyaf cyfleus i bobl ei gweld."

“Hefyd, gobeithiwn y bydd defnyddio Facebook a Twitter yn ffordd dda i ni siarad â phobl sy’n anodd eu cyrraedd trwy ddulliau traddodiadol, yn ogystal â chysylltu â phobl ynglŷn â materion lleol penodol sy’n bwysig iddyn nhw.”

“Rydym yn gwybod bod Facebook, Twitter a safleoedd rhwydweithio cymdeithasol eraill yn cael eu defnyddio gan bobl o gefndiroedd gwahanol sydd â diddordebau gwahanol. Gobeithiwn gan lansio’r safleoedd yn Ffair Glasfyrfyrwyr Prifysgol Morgannwg byddwn yn cyrraedd cynulleidfa fawr o fyfyrwyr gyda chefndiroedd a diddordebau amrywiol, nid yn unig yn Ne Cymru, ond ar draws y byd i gyd”.

“Hefyd, gall ffrindiau a theuluoedd y myfyrwyr weld newyddion, cyngor am ddiogelwch tân a diogelwch ar y ffyrdd, y diweddaraf ar ymgyrchoedd cymunedol a recriwtio wrth i’r wybodaeth gael ei rhoi ar ein tudalennau Facebook a Twitter, ac o’r tudalennau yma gallent gael eu cyfeirio ymlaen at wefan y Gwasanaeth”.

 

RHOWCH GAIS I GYSTADLEUAETH

 

                  Manylion Cyswllt  




Ffôn: 01443 232000
Ffacs:
01443 232165

E-bost: Swyddfa’r_Wasg@decymru-tan.gov.uk 


Gallwch ein Hoffi ar Facebook, ein Dilyn ar Twitter ein Gwylio ar Flickr a YouTube.

Tudalen Wedi Ei Diweddaru Ar 22/9/2011
SWFRS