Prif Swyddog GTADC Andy Marles yn ymddeol 

Ar y 30ain o Dachwedd 2011, ymddeoloedd Andy Marles fel Prif Swyddog Tân Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru.

 Ar ei ymddeoliad, a thra’n myfyrio ar ei yrfa, dywedodd Andy ;

“Ar lefel bersonol, rwy’n drist fy mod yn gadael y sefydliad gwych hwn, ond ar y llaw arall, gwyddwn fy mod yn ei adael mewn cyflwr arbennig, gyda thîm gwych yn ben iddo, sy’n fedrus i allu darparu gwasanaeth campus i gyhoedd De Cymru o ganlyniad i’r holl staff ymroddedig a gyflogwn.”

Parhaodd, “Dwi wedi mwynhau pob munud o’m hamser o fewn teulu gwych Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru.  Mae pob un o’m cydweithwyr wedi chwarae rhan bwysig drwy ddarparu a gwneud i’r Gwasanaeth Tân ac Achub hwn fod yn un o’r gorau yn y DG.”

“Daethom yn bell iawn ers cyfuniad y dair frigâd flaenorol ym 1996, ond, wrth i 2011 dynnu at ei therfyn, rydym wedi gwella ar gyflawniadau’r llynedd mewn amryw o ffyrdd.  Rwy’n hyderus bydd fy nghydweithwyr yn parhau â’r gwaith pwysig hwn gan fod gan bod un ohonynt y dyhead sylfaenol hwnnw i ofalu am y cyhoedd a’i gilydd.  Yn derfynol, a gaf i ddweud diolch i bob un person a weithiais â nhw ar hyd fy ngyrfa a phob aelod o staff am eu cyfraniad dilynol”.

Dywedodd Cadeirydd Awdurdod Tân ac Achub De Cymru, Cyng Anthony Ernest; “Ar hyd ei yrfa o fewn Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, gwnaeth Andy gyfraniad sylweddol a bu’n hynod ddylanwadol yn nifer o brif brosiectau a heriau a wynebwyd gan y Gwasanaeth hwn”.

“Ennillodd ei agwedd uniongyrchol a’i gymeriad dymunol y parch fwyaf gan bawb a gydweithiodd ag ef sy’n golygu bod ganddo’r gallu ar bob adeg i gadw pobl ar ei ochr ef ac i ‘gyflawni’r gwaith’ ”.

Parhaodd, “Mae Andy yn Brif Swyddog Tân hynod ymroddedig a phroffesiynol yn ogystal â bod yn berson hynod ddymunol a bydd chwith mawr ar ei ôl ymhlith holl aelodau Awdurdod Tân ac Achub yn ogystal â phersonél Gwasanaethol.  Dwi’n sicr fy mod yn siarad ar ran bawb wrth ddymuno ymddeoliad haeddiannol hir a hapus iddo ”.

Mae gan Ddirpwy Brif Swyddog Tân Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, Huw Jakeway sy’n olynnu Andy fel PST ar y 1af o Ragfyr 2011, lawer o edmygedd at Andy, fel yr eglura;

“Bu Andy yn ysbrydoliaeth i nifer o bobl dros y blynyddoedd. Arweiniodd y sefydliad â balchder a rhoddodd i bawb ohonom foeseg gymunedol hynod gref sy’n ein hannog i wneud yr hyn sy’n iawn ar gyfer ein cymunedau ”.

“Mi fydd hi’n anodd dilyn Andy a hoffwn, ar ran yr holl sefydliad, ddiolch iddo am ei ymroddiad personol i’r Gwasanaeth ac i gymunedau De Cymru.  Dymunwn ymddeoliad hir, hapus a iach iddo”.

Gydag ymddeoliad Andy Marles ar y 30ain o Dachwedd 2011, penderfynodd Awdurdod Tân ac Achub De Cymru gynnal strwythur draddodiadol ar frig y sefydliad am gyfnod dros dro tra byddwn yn disgwyl am unrhyw safbwyntiau bydd gan Lywodraeth Cymru wrth iddynt ddatblygub Fframwaith newydd ar gyfer y Gwasanaethau Tân ac Achub yng Nghymru.

I’r perwyl hyn, o’r 1af o Ragfyr, bydd Huw Jakeway yn Brif Swyddog Tân Dros Dro, Sally Chapman – Dirprwy Brif Swyddog Dros Dro, Phil Haynes – Prif Swyddog Cynorthwyol, Rod Hammerton - Prif Swyddog Tân Cynorthwyol ac Andy Thomas Prif Swyddog Tân Cynorthwyol Dros Dro.

Tra’n son am ei safle newydd, dywedodd Huw,“Rwy’n eithriadol o hapus a balch i gael fy mhenodi’n Brif Swyddog Tân Dros Dro o fewn Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru. Mae gennyf dîm ragorol a chydweithwyr i’m cefnogi ac edrychaf ymlaen at yr heriau a’r cyfleoedd newydd y bydd fy rôl newydd yn cynnig”.

Dywedodd Cadeirydd Awdurdod Tân ac Achub De Cymru, Cyng Anthony Ernest; “Hoffwn fod y cyntaf i longyfarch Huw Jakeway ar ei rôl fel Prif Swyddog Tân Dros Dro y sefydliad gwych hwn. Bu Huw, a fydd yn parhau i fod yn aelod o’r prif dîm yma yn Ne Cymru, ac mae’r Awdurdod yn hynod o ffodus i gael y fath dîm.  Byddwn yn gweld eisiau Andy Marles yn fawr iawn, a dymunaf bob llwyddiant iddo yn y dyfodol, a dwi’n siwr bydd Huw yn camu i’r adwy a dod yn Brif Swyddog Tân i’r sefydliad ymroddedig hwn o bron i 2,000 o staff”.

                  Manylion Cyswllt  




Ffôn: 01443 232000
Ffacs:
01443 232165

E-bost: Swyddfa’r_Wasg@decymru-tan.gov.uk 


Gallwch ein Hoffi ar Facebook, ein Dilyn ar Twitter ein Gwylio ar Flickr a YouTube.

Tudalen Wedi Ei Diweddaru Ar 03/1/2012
SWFRS