Mae Awdurdod Tân ac Achub De Cymru wedi cyhoeddi ei Gynllun Lleihau Risg drafft ar gyfer 2012 - 2013, sy’n amlinellu’r prif heriau strategol sy’n wynebu’r Awdurdod o ran sut y bydd yn darparu ei wasanaethau i gyhoedd De Cymru, a fydd yn cael ei roi ar waith ym mis Ebrill 2012. Mae’r Cynllun yn adeiladu ar ‘De Cymru fwy Diogel’ - Cynllun Lleihau Risg cyntaf yr Awdurdod a gyhoeddwyd yn 2007 a’r cynlluniau gweithredu blynyddol dilynol, ac yn eu hategu.
Dywedodd Dirprwy Brif Swyddog Tân De Cymru, Huw Jakeway;
Mae’r Cynllun Gweithredu Lleihau Risg 2012/2013 yn gosod sut y bwriadwn ddefnyddio ein hadnoddau i’r effaith fwyaf i’n galluogi parhau i ddarparu gwasanaethau hanfodol i gymunedau De Cymru. Rydym yn gofyn i bawb ystyried cynnwys y Cynllun ac i roi gwybod i ni am unrhyw sylwadau sydd ganddynt.”
Bob blwyddyn, bydd yr Awdurdod yn gosod amcanion gwella i adnabod ei flaenoriaethau ar gyfer lleihau risg i gymunedau De Cymru. Yn y cynllun hwn rydym wedi amlinellu’r meysydd yr ydym yn ystyried i fod yn flaenoriaeth ar gyfer 2012/2013, ac yn nodi sut yr ydym yn bwriadu defnyddio ein hadnoddau. Mae ein holl weithgareddau, sydd wedi’u hamlinellu yn y fframwaith cynllunio lleihau risg a rheoli perfformiad, yn gysylltiedig â chyflawni’r amcanion yma gan sicrhau bod y Gwasanaeth yn canolbwytnio ei ymdrechion ar wneud y mwyaf o gyfleoedd i wella’n gyson ac amddiffyn cymunedau De Cymru.
Ymhlith y materion y cyfeirir atynt yng Nghynllun 2012/2013 yw gwella ar ymateb argyfwng Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, lleihau risg yn y gymuned, arolygu strwythurau a phatrymau gweithio yn ogystal â phrosesau busnes a systemau TGC her mwyn cynnal gweithio effeithlon yn ystod hinsawdd economaidd anodd presennol.
Yng Nghynllun Lleihau Risg 2010/2011 amlinellwyd naw prosiect allweddol yr oedden yn teimlo eu bod yn bwysig i’n galluogi gwella’n barhaus y ffrydd rydym yn gweithio a’r safon uchel o’n gwasanaethau tra ystyried yr heriau ariannol y mae’r sefydliad yn eu gwynebu. Rydym wedi ymgymryd ag ymarfer ymgynghori manwl gyda’n cymunedau, hapddalwyr a gweithwyr ynglŷn â’r prosiectau arfaethedig ac rydym wedi gwneud newidiadau ar ôl gwrando’n ofalus i’r barn a fynegwyd. Rydym wedi gwneud ymrwymiad parhaol i gyflwyno canlyniadau yn deillio o’r prosiectau yma ac felly, yn enwedig wrth ystyried yr adnoddau a chyllidebau cyfyngedig sydd ar gael, rydym wedi penderfynu canolbwyntio ar gwblhau’r prosiectau’n llwyddiannus. Gan fod y prosiectau heb eu gorffen eto, gwneir cynigion ac argymhellion pan fydd arolwg llawn wedi’i wneud gan bob un o’r byrddau rhaglen. Ni weithredir cynigion ac argymhellion nes bod ymgynghoriad a chyd-drafod llawn wedi digwydd gyda’r grwpiau dan sylw a’r cyrff cynrychiadol.
Aeth y Dirprwy Brif Swyddog Tân Jakeway ymlaen: “Byddwn yn parhau i adeiladau ar yr atborth llwyddiannus rydym wedi’i dderbyn gan Swyddfa Archwilio Cymru a ddywedodd yn ei Hadroddiad Gwella Blynyddol bod “arweinyddiaeth effeithiol a threfniadau corfforaethol cadarn yn darparu sylfaen cryf ar gyfer gwella perfformiad”. Maent yn teimlo gan fod arweinyddiaeth gryf a rheoli da gennym, rydym yn debygol o wella pethau ar gyfer y bobl sy’n byw yn ein hardal.”
Yn olaf, dywedodd: “Yn yr hinsawdd economaidd sydd ohoni, rydym ni ynghyd â gwasanaethau cyhoeddus eraill yn wynebu heriau newydd. Rydym yn parhau i edrych yn agos ar y ffyrdd yr ydym yn darparu gwasanaethau er mwyn sicrhau ein bod yn gwneud hynny mor effeithiol ac effeithlon â phosib gan gymryd pob cyfle i gydweithio ag eraill er mwyn lleihau risg. Rydym wedi ymrwymo i sicrhau ein bod yn darparu'r gwasanaeth gorau posib i wneud ein cymunedau'r llefydd mwyaf diogel i fyw, gweithio ac ymweld â hwy.”
Rydym am i chi gael llais o ran siâp eich Gwasanaeth Tân ac Achub ac rydym yn gofyn eich barn yn ystod y cyfnod ymgynghori.
Croesawn ohebiaeth yn y Gymraeg neu Saesneg.
Rhannwch eich barn gyda ni drwy:-
Gwblhau’r holiadur ar-lein
E-bostio: ymgynghoriad@decymru-tan.gov.uk
Ysgrifennu at y Dirprwy Brif Swyddog Tân:Rhadbost RSAU-CCXG-XKAS Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, Parc Busnes Forest View, Pont-y-clun, CF72 8LX.