Cyhoeddodd Awdurdod Tân ac Achub De Cymru ei Gynllun Gweithredu Lleihau Risg 2012 - 2013, sy’n amlinellu yr heriau strategol a wynebai’r Awdurdod yn y modd y maent yn cyflwyno‘u gwasanaethau i’r cyhoedd yn Ne Cymru i’w gweithredu o Ebrill 2012 ymlaen. Mae’r cynllun yn cryfhau ac yn ategu ‘A Safer South Wales’ – Cynllun Lleihad Risg cyntaf yr Awdurdod a gyhoeddwyd yn 2007 a’i cynlluniau blynyddol dilynol. Dywed Dirprwy Brif Swyddog Tân, Huw Jakeway; “Mae Cynllun Gweithredu Lleihad Risg 2012/2013 yn amlinellu sut yr ydym yn ymdrechu i barhau i gyflwyno’r gwasanaethau angenrheidiol a ddarparwn i gymunedau De Cymru”.Pob blwyddyn, gosododd yr Awdurdod amcanion gwella i adnabod blaenoriaethau ar gyfer lleihau risg i gymunedau De Cymru. Yma, amlinellir amcanion gwella ar gyfer y flwyddyn ariannol 2012/2013, a lle y bwriadwn ganolbwyntio ei adnoddau. Mae’r holl weithrediadau arfaethedig a amlinellir yng nghynllunio lleihad risg a fframwaith rheoli perfformiad yn cysylltu’n uniongyrchol â llwyddiant yr amcanion hyn, gan sicrhau y canolbwyntir ymdrechion y Gwasanaeth ar eithafu cyfleon i wneud gwelliannau yn barhaol ynghyd â gwarchod y cymunedau a wasanaethir gan GTADC. Ymysg y materion a ymroddir gan Gynllun 2012/2013 yw gweithrediad ymateb argyfwng gweithredol Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, lleihad risg o fewn y gymuned, adolygiad patyrmau gwaith a strwythurau ynghyd â phrosesau busnes a systemau TGCh i gynnal gweithio effeithlon yn yr dyddiau economaidd anodd hyn.O ystyried yr hinsawdd economaidd anodd, amlinellwyd naw prosiect allweddol o fewn Cynllun Lleihad Risg 2010/2011 y teimlwyd oedd yn ein galluogi i wella ein ffyrdd o weithio’n barhaus tra yn cynnal safon uchel ein cyflwyniad gwasanaeth. Yn 2010, fe ymgymeron ni ag ymarfer ymgynghorol trwyadl â’n cymunedau, ein budd-ddeiliaid a’n gweithwyr ar sail y prosiectau arfaethedig ac, o ganlyniad i wrando gofalus ar safbwyntiau a fynegwyd, gwnaed newidiadau. Mae gennym ymrwymiad parhaus i gyflwyno canlyniadau mewn perthynas â’r prosiectau hyn ac, yn hyn o beth, yn enwedidig o ystyried y rhwystrau cyfredol sydd ar adnoddau a chyllidebau, penderfynom barhau i ganolbwyntio ar gyflawni’r prosiectau hyn yn llwyddiannus. Gan fod y prosiectau yn gyfredol, gwneir cynigion ac argymhellion pan gyflawnir adolygiad llawn gan bob un o’r byrddau rhaglen. Dim ond yn dilyn ymgysylltiad, ymgynghoriad a negydu llawn â’r grwpiau a effeithir a chyrff cynrychiadol y cyflawnir unrhyw gynigion ac argymhellion yn unig. “Mae gan y cyhoedd yr ydym yn ei gwasanaethu barch mawr tuag at Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru o ganlyniad i’r gwasanaeth o’r radd flaenaf a ddarparwn i’n cymunedau drwy ymrwymiad a phroffesiynoldeb ein staff. Mae angen i ni barhau i geisio ffyrdd newydd arbrofol o gyflwyno ein gwasanaeth, tra’n canolbwyntio ar ddiogelwch Ymladdwyr Tân a chynnal safonau uchel ein cyflwyniad gwasanaeth, a thra’n sicrhau bod diogelwch y cyhoedd wrth wraidd ein penderfyniadau” medd Dirprwy Brif Swyddog Tân De Cymru, Huw Jakeway.Ategodd DBST Jakeway; “Byddwn yn parhau i adeiladu ar lwyddiant yr adborth a gawsom gan Swyddfa Archwilio Cymru, a nododd yn eu Hadroddiad Gwella Blynyddol o’r Gwasanaeth ‘bod arweinyddiaeth effeithiol a threfniadaeth gorfforaethol grymus yn darparu sail cadarn ar gyfer gwelliannau mewn perfformiad’. Mewn geiriau eraill, credant ein bod yn fwy tebygol o wella pethau i’r bobl sy’n byw o fewn ein hardal oherwydd bod gennym arweinyddiaeth gadarn ac oherwydd fe’n rheolir yn dda”.
Yn derfynol, dywedodd “Yn yr hinsawdd economaidd gyfredol, yr ydym ni, ynghyd â’r gwasanaethau cyhoeddus eraill yn wynebu heriau ddigyffelyb ac rydym yn parhau i edrych yn ofalus ar y ffyrdd yr ydym yn cyflwyno gwasanaethau er mwyn sicrhau ein bod yn gwneud hynny yn y modd mwyaf effeithiol ac effeithlon posib, tra’n gwneud y gorau o’r cyfleon i gydweithio ag eraill i leihau risg. Yn wastadol, rydym yn parhau’n ymrwymedig i sicrhau y byddwn yn cynnig y gwasanaeth gorau posib fydd yn gwneud ein cymunedau yn Ne Cymru y lle mwyaf diogel i fyw, i weithio ac i ymweld â nhw”.
Manylion Cyswllt
Ffôn: 01443 232000 Ffacs: 01443 232165
E-bost: Swyddfa’r_Wasg@decymru-tan.gov.uk
Gallwch ein Hoffi ar Facebook, ein Dilyn ar Twitter ein Gwylio ar Flickr a YouTube.