26 Mehefin 2008, 22.51 Heol Lecwydd, Lecwydd, Caerdydd
Galwyd ymladdwyr tân i wrthdrawiad traffig ar y ffordd yn ymwneud â char yn taro postyn lamp. Rhyddhawyd un fenyw anafedig o’r cerbyd gan ymladdwyr tân yn defnyddio offer torri hydrolig o gerbyd achub.
26 Mehefin 2008, 17:31 Clos y Beirdd, Rhydyfelin, Pontypridd
Ymatebodd ymladdwyr tân i dân mewn cegin fflat ar ail lawr a achoswyd gan sosban sglodion. Deliodd Criwiau Tân ag un fenyw anafedig yn dioddef o anadlu mwg.
25 Mehefin 2008, 03:01 Heol Deere, Trelái, Caerdydd
Galwyd ymladdwyr tân i dân mewn tŷ gwag. Achoswyd difrod difrifol i’r llawr cyntaf a gofod y to. Defnyddiwyd un prif jet, dwy rîl bibell a dau ymladdwr tân mewn offer anadlu i ddiffodd y tân.
24 Mehefin 2008, 19:56 Cartref Gofal Springfield, Gilfach, Bargoed
Galwyd ymladdwyr tân i dân mewn adeilad tri llawr. Roedd y tân mewn ystafell wely ar y llawr cyntaf. Defnyddiwyd pedwar ymladdwr tân, un rîl bibell jet ac un ffan gwyntyllu pwysedd positif i ddelio â’r tân.
24 Mehefin 2008, 19:35 Rhodfa Bromley, Trelái
Galwyd ymladdwyr tân i dân ar lawr gwaelod adeilad deulawr sengl tua 60m wrth 40m. Defnyddiwyd chwe ymladdwr tân mewn offer anadlu, dwy rîl bibell, un jet diogelwch, offer bach hydrolig a ffan gwyntyllu pwysedd positif. Nid yw’r adeilad hwn yn cael ei ddefnyddio.
24 Mehefin 2008, 04:30 Stryd y Groes, Ynysboeth
Galwyd ymladdwyr tân i dân mewn adeilad teras deulawr. Roedd y llawr cyntaf ar dân yn sylweddol. Defnyddiwyd wyth ymladdwr tân mewn offer anadlu, dwy rîl bibell ac un prif jet i ddelio â’r tân. Dioddefodd y ddau adeilad cyfagos rywfaint o ddifrod oherwydd mwg.
22 Mehefin 2008, 01:03 Wetherspoons, Gwesty’r Wyndham Arms, Lle Dunraven, Pen-y-bont ar Ogwr
Galwyd ymladdwyr tân i dân bach ar y llawr cyntaf. Defnyddiwyd dau ymladdwr tân mewn offer anadlu ac un rîl bibell jet. Roedd llawr iawn o fwg yn yr adeilad
21 Mehefin 2008, 22:53 Heol yr Orsaf, Tonyrefail
Galwyd ymladdwyr tân i wrthdrawiad traffig ar y ffordd rhwng dau gar. Tynnwyd dau berson ag anafiadau o’r cerbydau gan y gwasanaeth ambiwlans cyn i’r ymladdwyr tân gyrraedd a chawsant eu trin yn y fan a’r lle. Gwnaeth ymladdwyr tân y cerbydau’n ddiogel.