Hoffai Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru atgoffa pobl am beryglon tân yn y cartref, yn enwedig yn y gegin, ar Ddiwrnod Crempog.Diwrnod Crempog yw’r dydd pan fydd pobl yn estyn am y badell ffrio, y lemwn a’r siwgr – ond bydd angen y Gwasanaeth Tân ac Achub ar rai yn ogystal.Tra’n gwneud crempog, mae’n bwysig na fyddwch fyth yn gadael unrhyw fath o goginio neu offer cegin yn ddioruchwyliaeth. Mae’n cymryd ychydig o eiliadau yn unig i badell neu bopty sy’n ddioruchwyliaeth i gynnau a datblygu i fod yn dân difrifol sy’n peryglu bywydau.Mae Diwrnod Crempog yn gyfle arall i’r Gwasanaeth addysgu’r cyhoedd am beryglon y gegin.Cyngor DiogelwchPan fyddwch yn defnyddio padell ffrio neu wrth goginio gydag olew poeth, cofiwch:• Peidiwch byth â gadael y badell yn ddioruchwyliaeth pan fydd y gwres ynghynn • PEIDIWCH â symud y badell os bydd e ar dân • Peidiwch â rhoi bwyd i mewn i’r badell pan fydd yr olew yn mygu • Os bydd tân, ewch allan, arhoswch allan a rhowch alwad i ni• Goruchwyliwch blant yn y gegin ar bob adeg Mae Huw Jakeway, Prif Swyddog Tân Dros Dro, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn ymbil “Bydd larwm tân gweithiol yn gwella eich cyfle o ddianc heb niwed yn fawr. Gwnewch gynllun a’i ddilyn – byddwch yn ymwybodol o ba gyfeiriad y byddwch yn gadael y tŷ a sicrhewch eich bod yn gwybod lle byddwch yn mynd”.