Datganiad ar ôl i fenyw bledio’n euog yn dilyn gweithred ar injan dân 

Mae’n hollol annerbyniol i aelodau’r gymuned gam-drin ein Criwiau Tân ar safle digwyddiad, lle maen nhw ond yn ceisio helpu.

Mae mynd i mewn i gerbyd y Gwasanaeth Tân ac Achub a’i symud yn ddiofal i mewn i gerbydau eraill yn dangos diffyg parch llwyr am waith caled y gwasanaethau argyfwng.

Mae’r camau a gymerodd y person hwn yn anghredadwy ac yn hollol annerbyniol ac mae hi ond yn iawn ei bod wedi pledio’n euog heddiw. Mae’n amlwg y rhoddwyd bywydau’n hymladdwyr tân a’r cyhoedd yn y cyffiniau mewn perygl gan y fath ymddygiad anghyfrifol.

Ar ôl ymddangosiad llys heddiw, gobeithiwn fod pobl eraill yn deall difrifoldeb y fath ymddygiad a’r effaith bosibl y gallai gael ar yr unigolion sy’n gysylltiedig a’r gwasanaethau argyfwng.

Rydyn ni’n fodlon â chanlyniad heddiw ac rydyn ni’n falch bod y llysoedd wedi ymdrin â’r digwyddiad hwn yn briodol.

Tudalen Wedi Ei Diweddaru Ar 11/9/2008
SWFRS