Pobl ifanc yn dringo i godi arian i ymladdwyr tân 

Pobl ifanc yn dringo i godi arian i ymladdwyr tân

Mae tri grŵp o bobl ifanc a lwyddodd i gyflawni ‘Rhaglen y Dreigiau’ arloesol Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru bellach wedi codi dros £300 i Elusen yr Ymladdwyr Tân i ddweud diolch.

Rhoddodd pobl ifanc o Ysgolion Cyfun Abersychan a’r Ddraenen Wen ac Ysgol Uwchradd Illtyd Sant esgidiau cerdded am eu traed i ddringo Mynydd Pen-y-fâl yn Y Fenni ddechrau Gorffennaf.

Trwy gasglu nawdd gan deulu a ffrindiau, cododd y disgyblion arian i Elusen yr Ymladdwyr Tân fel arwydd o werthfawrogiad o’r ymladdwyr tân a gynhaliodd y rhaglen gan roi profiad pleserus sy’n rhoi boddhad i bawb.
Arweiniodd Jim Cookson, Rheolwr Gwylfa, y bobl ifanc sydd yn eu harddegau, trwy Rhaglen y Dreigiau; cwrs sgiliau ymladd tân un diwrnod yr wythnos dros ddeuddeg wythnos. Cerddodd ef a Brian Amos, ei gyd-arweinydd ar Raglen y Dreigiau, gyda’r tri grŵp i gopa’r mynydd rhwng 1 a 3 Gorffennaf.

Meddai Jim, “Rydyn ni’n wirioneddol falch o’r bobl ifanc am gyflawni Rhaglen y Dreigiau ac yna ymgymryd o’u gwirfodd â rhoi rhywbeth yn ôl i’r Gwasanaeth Tân ac Achub. Maen nhw wedi bod yn glod i’w hysgolion a’u teuluoedd ac rydyn ni’n dymuno’r gorau iddyn nhw yn eu dewis o addysg a gyrfa yn y dyfodol. Mae codi arian i’n helusen yn rhywbeth ardderchog, a chaiff ei werthfawrogi’n fawr gan ymladdwyr tân ar draws y D.U. Mae’r elusen yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pawb yn y Gwasanaeth Tân ac Achub ac mae’n achos gwerthfawr iawn.”

Ariennir Rhaglen y Dreigiau gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a’i nod yw cynnig ffordd arall o ddysgu i ddisgyblion nad yw eu hanghenion yn cael eu bodloni’n llawn yn amgylchedd traddodiadol yr ystafell ddosbarth. Llwyddodd y rhaglen i gau’r cwlwm rhwng y gymuned ifanc a’r ymladdwyr tân. Mae wedi bod yn cael ei chynnal ers bron i ddwy flynedd ac wedi cyrraedd tua 150 o bobl ifanc hyd yn hyn.

Tudalen Wedi Ei Diweddaru Ar 12/9/2008
SWFRS