Syniadau newydd yn cael eu gwobrwyo yn y frwydr yn erbyn ymddygiad gwrthgymdeithasol  

Syniadau newydd yn cael eu gwobrwyo yn y frwydr yn erbyn ymddygiad gwrthgymdeithasol

Ymysg y miloedd o bobl ifanc a aeth i ddigwyddiad Gorau Glas ym Mharc Bute yng Nghaerdydd 12 Gorffennaf, gwobrwywyd dau berson ifanc â Nintendo Wii am eu dyluniadau buddugol ar gyfer ymgyrch yn erbyn galwadau ffug a llosgi bwriadol.

Roedd staff rheoli Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn y digwyddiad, yn hyrwyddo negeseuon yr ymgyrch yn erbyn galwadau ffug a llosgi bwriadol. Yn ystod y digwyddiad, esbonion nhw beryglon a chanlyniadau difrifol galwadau ffug a thanau bwriadol. Cynhaliodd y tîm rheoli gystadleuaeth yn rhan o’r ymgyrch addysgiadol hon sy’n anelu at leihau nifer y galwadau argyfwng ffug a thynnu sylw at berygl cynnau tân yn fwriadol.

Gwahoddwyd plant o dan 16 oed i ddylunio logo, neu greu slogan i amlygu’r ddwy thema allweddol roedden nhw wedi cael gwybod amdanyn nhw yn y babell reoli.

Rhoddodd 121 o bobl ifanc gynnig ar y gystadleuaeth ac ar ôl ystyriaeth ofalus, dewiswyd enillydd ym mhob categori.

Mae Connor Western, sy’n 13 oed o Ddraenen Pen-y-Graig yng Nghaerdydd yn mynychu Ysgol Uwchradd Llanisien a meddyliodd am y slogan buddugol ar gyfer y neges yn erbyn galwadau ffug. Y slogan i ennill y gystadleuaeth oedd ‘Don’t phone and be a liar, someone else may have a real fire!’. Aeth Connor i Orsaf Dân yr Eglwys Newydd ddydd Llun a chyflwynwyd ei wobr iddo gan Steve Skivens, y Prif Swyddog Tân Cynorthwyol, a chynrychiolwyr o Reoli Gwylfa Goch.

Guto Pari, sy’n 8 oed ac yn dod o Lanhari, a enillodd y wobr am y llun gorau’n dangos y neges yn erbyn llosgi bwriadol. Mae Guto hefyd yn ennill Wii a chyflwynodd Chris Allen, Ymladdwr Tân (rheoli) ei wobr iddo ym Mhontyclun ddydd Mercher.

Meddai Jennie Griffiths, Rheolwr Grŵp, Pennaeth Rheoli Tân, “Gwnaeth safon y cynigion argraff fawr arnon ni a mwynheuon ni weld sut roedd y bobl ifanc wedi dehongli ein negeseuon. Fe fydd dyluniadau Guto a Connor nawr yn cael eu hymgorffori mewn ymgyrchoedd poster a’u defnyddio yn ysgolion De Cymru.”

Tudalen Wedi Ei Diweddaru Ar 12/9/2008
SWFRS