Gydag arbenigwyr y tywydd yn rhagweld haf hir a sych, mae’r tri Gwasanaeth Tân ac Achub yng Nghymru yn cynghori’r cyhoedd ar sut i gael hwyl, ond hefyd ar sut i aros yn ddiogel yn yr haul.
Dywedodd y Prif Swyddog Tân Richard Smith:
Yn ystod haf hir a phoeth, mae’r glaswellt a’r llystyfiant yn dueddol o fod yn sych, sy’n golygu os ydych chi’n cychwyn tân yn yr awyr agored trwy ddamwain, bydd yn lledu’n gyflym, gan ddinistrio unrhyw beth yn ei lwybr. Ychwanegwch ychydig o awel yr haf i’r gymysgedd a bydd y tân yn lledu’n gynt eto.
“Mae sigarét a daflwyd o ffenest car, barbeciw sy’n rhoi clawdd ar dân neu goelcerth a adawyd heb neb i gadw llygad arni, yn medru dechrau tân sy’n dinistrio erwau o gefn gwlad, cnydau a bywyd gwyllt.
“Os yw’r tân yn cychwyn yn agosach i adref, gallai ddinistrio eich gardd, lledu i’ch tŷ a pheryglu bywydau pwy bynnag sydd y tu mewn.
“Gallai nifer fach o ragofalon syml ac ychydig mwy o ofal eich cadw chi’n ddiogel ac atal y mwyafrif o’r mathau yma o danau.
“Buaswn yn cymell pawb i gymryd yr amser i ddarllen ein cyngor ar ddiogelwch yn y gymuned ar ddiogelwch rhag tân yng nghefn gwlad, wrth wersylla a charafanio a diogelwch barbeciws.”
Rydym yn gobeithio byddwch yn dilyn ein cyngor syml ar ddiogelwch yr haf wrth i chi fwynhau yn yr haul yr haf hwn:
Os digwydd tân:
Yr holl nwy yn y bibell wedi cael ei ddefnyddio