SWFRS

Ymgyrch Phoenix i leihau tanau glaswellt - Gwent 

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru wedi ymuno â Heddlu Gwent, y Comisiwn Coedwigaeth a Thîm Lleihau Llosgi Bwriadol De Cymru ar gyfer ‘Ymgyrch Phoenix’ - menter bartneriaeth gyda’r bwriad o leihau’r nifer o danau glaswellt dros y Pasg.  Bydd yr ymgyrch yn digwydd yr wythnos nesaf yn ardaloedd Cwmbrân a Chefn Fforest. 

Bydd adnoddau yn cynnwys cerbydau pob tirwedd y Gwasanaeth Tân a’r Comisiwn Coedwigaeth a beiciau modur oddi ar y ffordd yr Heddlu yn cael eu defnyddio gan yr asiantaethau partner wrth iddynt batrolio ochrau’r mynyddoedd dros yr wythnosau i ddod yn edrych am losgwyr a allai fod yn cynnau tanau. Mae hyn oll yn ymdrech benderfynol i leihau’r nifer enfawr o danau glaswellt bwriadol yr ydym yn dioddef yn flynyddol.  

“Credwn mai Cymoedd De Cymru sy’n dioddef y nifer uchaf o danau glaswellt yn y DU”, dywedodd Knill Baird-Murray, Rheolwr Gorsaf, Gorsaf Dân Cefn Fforest. 

“Yr unig ffordd i fynd i’r afael â’r broblem barhaus hon yw ymdrech ar y cyd gan bob asiantaeth sydd ynghlwm – rydym yn hynod o ffodus fod y partneriaid yn cymryd y mater hwn o ddifrif. Dyw pobl fel petaent ddim yn deall difrifoldeb tanau glaswellt. Mae tanau glaswellt a mynydd yn anrhagweladwy ac yn gallu lledu allan o reolaeth o fewn munudau. Un dydd, bydd rhywun yn colli ei fywyd -  ac fe allai fod yn un o’n Hymladdwyr Tân ni”.

Aeth Rheolwr Gorsaf Baird-Murray ymlaen:  Pob tro y caiff ein Hymladdwyr Tân eu galw i dân glaswellt neu fynydd mae’n costio miloedd o bunnoedd i drethdalwyr, ac mae hefyd yn golygu y gallai Ymladdwyr Tân fod wedi’u dargyfeirio rhag mynychu gwir argyfwng - rhywun wedi’i ddal mewn tân yn y cartref neu mewn car wedi cael damwain. Yn ogystal â hyn, mae’n dinistrio’r amgylchedd yn llwyr ac yn atal unrhyw fuddsoddiad mewnol yn y rhan prydferth hwn o’r byd

Cydlynydd yr ymgyrch yw Sarsiant Neil O’Connell o Dîm Lleihau Llosgi Bwriadol De Cymru, ac mae’r ymgyrch wedi bod yn bosibl oherwydd nawdd Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Dywedodd Sarsiant O’Connell:

Mae llosgi bwriadol yn drosedd, byddwn yn arestio ac yn erlyn unrhyw un sy’n cael eu dal yn cynnau’r tanau hyn”.

“Mae’r bobl hyn yn peryglu eu bywydau eu hunain yn ogystal â bywydau ac eiddo eraill yn y gymuned. Gall pobl sy’n cynnau tanau yn fwriadol gael eu herlyn o dan nifer o gyfreithiau gan gynnwys dinistrio’r amgylchedd a bywyd gwyllt, aflonyddu rhywogaethau sydd wedi’u diogelu a difrod i eiddo”, ychwanegodd.   

Ar ddiwrnodau penodol dros y misoedd i ddod bydd Ymladdwyr Tân, Swyddogion yr Heddlu a Swyddogion y Comisiwn Coedwigaeth yn patrolio’r ardal yn eu cerbydau ar gyfer pob tirwedd, gan gadw mewn cyswllt parhaol gydag Ystafelloedd Rheoli yr Heddlu a’r Gwasanaeth Tân.

Dylai pobl gysylltu â’u gorsaf heddlu lleol neu Crimestoppers (0800 555 111) ar unwaith os ydynt yn gweld unrhyw un ynghlwm â chynnau tanau.

Manylion Cyswllt:

Ffôn: 01443 232164
Ffacs: 01443 232165

E-bost: press_office@southwales-fire.gov.uk

Crimestoppers

 

SWFRS
Tudalen Wedi Ei Diweddaru Ar 17/6/2009