Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru wedi ymuno â Heddlu De Cymru, y Comisiwn Coedwigaeth a Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (RCT) ar gyfer ‘Ymgyrch Phoenix’ – menter bartneriaeth gyda’r bwriad o leihau’r nifer o danau glaswellt yng Nghymoedd y Rhondda dros y Pasg. Caiff y prosiect ei lansio’r wythnos nesaf o Orsaf Dân Tonypandy.
Bydd adnoddau yn cynnwys cerbydau pob tirwedd y Gwasanaeth Tân a’r Comisiwn Coedwigaeth, beiciau modur oddi ar y ffordd yr Heddlu, Tîm Gorfodi ASBO ac Uned
Teledu Cylch Cyfyng (CCTV) yn cael eu defnyddio gan yr asiantaethau partner wrth iddynt batrolio ochrau’r mynyddoedd dros yr wythnosau i ddod yn edrych am losgwyr a allai fod yn cynnau tanau. Mae hyn oll yn ymdrech benderfynol i leihau’r nifer enfawr o danau glaswellt bwriadol y mae RCT yn dioddef yn flynyddol.
Cafodd y gydbartneriaeth hon ei sefydlu fel rhan o Brosiect Tanau Gwyllt y sefydliad - ffordd aml ddull o ymdrin ag addysgu, gorfodi, tacteg gweithredol, hyfforddiant a gweithio mewn partneriaeth.
“Credwn fod Rhondda Cynon Taf yn dioddef y nifer uchaf o danau glaswellt yn y DU”, dywedodd Steve Doel, Rheolwr Gorsaf, Gorsaf Dân Tonypandy.
“Yr unig ffordd i fynd i’r afael â’r broblem barhaus hon yw ymdrech ar y cyd gan bob asiantaeth sydd ynghlwm – rydym yn hynod o ffodus fod y partneriaid yn cymryd y mater hwn o ddifrif. Dyw pobl fel petaent ddim yn deall difrifoldeb tanau glaswellt. Mae tanau glaswellt a mynydd yn anrhagweladwy ac yn gallu lledu allan o reolaeth o fewn munudau. Un dydd, bydd rhywun yn colli ei fywyd - ac fe allai fod yn un o’n Hymladdwyr Tân ni”.
Aeth Rheolwr Gorsaf Doel ymlaen: “Pob tro y caiff ein Hymladdwyr Tân eu galw i dân glaswellt neu fynydd mae’n costio miloedd o bunnoedd i drethdalwyr, ac mae hefyd yn golygu y gallai Ymladdwyr Tân fod wedi’u dargyfeirio rhag mynychu gwir argyfwng - rhywun wedi’i ddal mewn tân yn y cartref neu mewn car wedi cael damwain. Yn ogystal â hyn, mae’n dinistrio’r amgylchedd yn llwyr ac yn atal unrhyw fuddsoddiad mewnol yn y rhan prydferth hwn o’r byd”
Mae’r Arolygydd Mike Jones, Heddlu De Cymru, wedi ymrwymo’n llawn i’r prosiect ac mae’n credu fod cyfuno adnoddau’r holl asiantaethau sydd ynghlwm yn mynd i ddod â chanlyniadau positif.
“Mae llosgi bwriadol yn drosedd, byddwn yn arestio ac yn erlyn unrhyw un sy’n cael eu dal yn cynnau’r tanau hyn”, dywedodd.
“Mae’r bobl hyn yn peryglu eu bywydau eu hunain yn ogystal â bywydau ac eiddo eraill yn y gymuned. Gall pobl sy’n cynnau tanau yn fwriadol gael eu herlyn o dan nifer o gyfreithiau gan gynnwys dinistrio’r amgylchedd a bywyd gwyllt, aflonyddu rhywogaethau sydd wedi’u diogelu a difrod i eiddo” ychwanegodd yr Arolygydd Jones.
Ar ddiwrnodau penodol dros y misoedd i ddod bydd Ymladdwyr Tân, Swyddogion yr Heddlu, Swyddogion y Comisiwn Coedwigaeth, ac Uned Gorfodi ASBO Rhondda Cynon Taf yn patrolio’r ardal yn eu cerbydau ar gyfer pob tirwedd, a bydd yr Uned CCTV yn monitro ochrau’r mynyddoedd gan gadw mewn cyswllt parhaol gydag Ystafelloedd Rheoli yr Heddlu a’r Gwasanaeth Tân.
Dylai pobl gysylltu â’u gorsaf heddlu lleol neu Crimestoppers (0800 555 111) ar unwaith os ydynt yn gweld unrhyw un ynghlwm â chynnau tanau.
Manylion Cyswllt Ffôn: 01443 232000 Ffacs: 01443 232165 E-bost: Swyddfa’r_Wasg@decymru-tan.gov.uk Gallwch ein Hoffi ar Facebook, ein Dilyn ar Twitter ein Gwylio ar Flickr a YouTube.
Manylion Cyswllt
Ffôn: 01443 232000 Ffacs: 01443 232165
E-bost: Swyddfa’r_Wasg@decymru-tan.gov.uk
Gallwch ein Hoffi ar Facebook, ein Dilyn ar Twitter ein Gwylio ar Flickr a YouTube.