Ymladdwyr Tân yw’r cyntaf i ennill y cymhwyster achub newydd 

Ymladdwyr Tân De Cymru yw’r cyntaf yn y DU i ennill y cymwysterau arbenigol newydd sbon o ran achub pobl o lefydd cyfyng.

Mae 24 Ymladdwr Tân wedi cael hyfforddiant dwys yn Mines Rescue Porth, y nod cychwynnol oedd ennill cymhwyster City & Guilds, ond maent wedi rhagori ar y disgwyliadau a hefyd wedi ennill y cymhwyster NVQ diweddaraf a gafodd ei gyflwyno er mwyn bodloni safonau’r diwydiant.

Mae achub o lefydd cyfyng ond yn un agwedd ar amrywiaeth o hyfforddiant datblygedig y bydd 36 o Ymladdwyr Tân sydd wedi’u lleoli yn yr Uned Achub Technegol, yng Ngorsaf Dân Malpas yng Nghasnewydd, yn cwblhau dros y ddau fis nesaf.  Mae’r cwrs pedwar diwrnod wedi’i gynllunio er mwyn darparu hyfforddiant arbenigol pwrpasol i’r Ymladdwyr Tân, a fydd yn eu galluogi i gyfuno eu sgiliau achub eraill fel achub llinell a gofal trawma, er mwyn sicrhau eu bod yn gallu rhyddhau pobl sydd wedi’u dal mewn llefydd cyfyng mor gyflym â phosibl ac mor ddiogel â phosibl.

Esboniodd Dave Vaughan, Ymladdwr Tân sydd newydd gwblhau’r hyfforddiant ac wedi ennill y cymhwyster newydd, fod y wybodaeth a’r technegau a ddysgodd ar y cwrs wedi’u darparu er mwyn cyd-fynd ac ehangu ar y sgiliau sydd gan Ymladdwyr Tân eisoes.

“Hwn yw un o’r cyrsiau hyfforddiant mwyaf dwys i mi fynychu ers ymuno â’r Gwasanaeth Tân ac Achub” dywedodd.

Ychwanegodd:

“Mae’r cyfleusterau hyfforddi yma yn wych ac mae’r ymarferion yr ydym wedi cymryd rhan ynddynt yn hynod o realistig ac wedi’u cynllunio er mwyn profi ein sgiliau i’r eithaf. Mae pob Ymladdwr Tân yn derbyn hyfforddiant sylfaenol o ran achub o lefydd cyfyng, mae pawb wedi’i wneud, ond mae hwn yn hyfforddiant ychwanegol a fydd yn ein galluogi i roi cymorth i’n cydweithwyr mewn Gorsafoedd Tân eraill a fydd y cyntaf i gyrraedd digwyddiadau achub o lefydd cyfyng pan fyddant yn digwydd o fewn ardaloedd eu Gorsaf hwy.”

Yr Ymladdwr Tân Robert England yw un o’r hyfforddwyr yng Ngorsaf Mines Rescue Dinas ger Porth yng Nghwm Rhondda. Gweithiodd fel glöwr ym mhwll glo Maerdy am 10 mlynedd, a bu’n aelod o’r Mines Rescue am 14 mlynedd, treuliodd Robert hefyd 18 mlynedd fel Ymladdwr Tân rhan amser yng Ngorsaf Dân Porth.

Dywedodd:

“Mae’r Ymladdwyr Tân yn dysgu am theori cael mynediad i lefydd cyfyng ac achub mewn argyfwng, sy’n cynnwys gwirio’r gwaith papur priodol cyn mynd mewn i lefydd cyfyng, yn ogystal â chanolbwyntio ar y profiad ‘ymarferol’ pwysig o ymarferion achub, sy’n gyfle i ddarganfod peryglon posib, gan gynnwys nwyon peryglus, llifogydd, ffrwydradau neu gwymp.”

Bydd yr hyfforddiant datblygedig yn golygu y bydd o leiaf 6 allan o’r 9 Ymladdwr Tân ar bob Gwylfa yn yr Orsaf Achub Technegol newydd wedi ennill cymwysterau NVQ lefel 2 - Mynediad Diogel i Lefydd Cyfyng a NVQ lefel 3 -  Achub mewn Argyfwng o Lefydd Cyfyng. Byddant yn trosglwyddo eu sgiliau a’u profiad o ran achub pobl sydd wedi’u dal mewn llefydd cyfyng fel twneli, carthffosydd, daeargelloedd a seilos storio i’w cydweithwyr yn yr Orsaf Achub Technegol ac i Orsafoedd Tân ar draws De Cymru.

                  Manylion Cyswllt  




Ffôn: 01443 232000
Ffacs:
01443 232165

E-bost: Swyddfa’r_Wasg@decymru-tan.gov.uk 


Gallwch ein Hoffi ar Facebook, ein Dilyn ar Twitter ein Gwylio ar Flickr a YouTube.

Tudalen Wedi Ei Diweddaru Ar 08/3/2009
SWFRS