Mae’r Wythnos Diogelwch Cymru cyntaf erioed yn cael ei lansio ddydd Llun 22 Medi i godi ymwybyddiaeth o ddiogelwch tân a’r gwasanaeth Gwiriad Diogelwch Tân yn y Cartref a gynigir gan y tri Gwasanaeth Tân ac Achub yng Nghymru.
O 22 Medi - 26 Medi ac mewn partneriaeth ag Atal Tân Cymru, bydd ymladdwyr tân yn uno ar draws Cymru i annog y wlad i sicrhau bod ganddyn nhw larymau mwg yn gweithio wedi’u gosod yn y cartref.
Roedd bron i hanner yr holl gartrefi sydd wedi cael tân yn y flwyddyn ddiwethaf heb larwm mwg, yn ôl Gwasanaethau Tân ac Achub Cymru. Rhwng 1 Ebrill 2007 a 31 Mawrth 2008, effeithiwyd ar bron i 2,000 o gartrefi gan dân ar draws Cymru.
Yn ne Cymru roedd 830 o danau annedd damweiniol yn yr un cyfnod, roedd 367 heb larwm mwg, roedd 78 â larymau mwg na weithredodd ac roedd 385 â larymau mwg a weithredodd.
Yn ystod yr ymgyrch gyhoeddusrwydd sy’n para am wythnos, bydd y tri Gwasanaeth Tân ac Achub yng Nghymru’n cynnig cyngor ymarferol ar sut i wneud cartrefi a chymunedau’n fwy diogel. Bydd yr wythnos hefyd yn canolbwyntio ar godi ymwybyddiaeth o’r cynllun Gwiriad Diogelwch Tân yn y Cartref a gynigir gan ymladdwyr tân a staff lleol ar draws Cymru y ceir mynediad ato trwy un rhif ffôn i Gymru, sef 0800 169 1234.
Meddai Dr Brian Gibbons, Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol:
“Rwy’n cefnogi’n llwyr Wythnos Diogelwch Cymru a’r negeseuon pwysig mae’r tri Gwasanaeth Tân ac Achub yng Nghymru’n ceisio eu cyfleu. Mae’n hanfodol bod pobl yn cael larymau mwg wedi’u gosod yn eu cartrefi. Mae’n gam diogelwch tân syml a allai achub bywydau. Byddwn i hefyd yn annog pobl i fanteisio ar y Gwiriadau Diogelwch Tân yn y Cartref sydd ar gynnig o’u Gwasanaethau Tân ac Achub lleol.”
Esboniodd Martin Henderson, Rheolwr Ardal a Phennaeth Diogelwch Cymunedol Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru:
“Dyma gyfle delfrydol i godi ymwybyddiaeth o beryglon angheuol peidio â’ch diogelu’ch hunan rhag tân. I’r rhai sy’n meddwl eu bod nhw wedi’u diogelu gan larwm mwg, mae’r Gwasanaeth yn eu hannog i sicrhau eu bod nhw’n ei wirio’n rheolaidd. Yn y flwyddyn ddiwethaf roedd bron i 250 o gartrefi lle roedd tân wedi dechrau, â larwm mwg nad oedd wedi gweithredu. Mae hyn yn peri gofid ac yn rhoi bywydau mewn perygl.
“Dydyn ni byth yn gallu pwysleisio digon mor bwysig mae larwm mwg sy’n gweithio yn eich cartref – yn wir maen nhw’n gallu golygu’r gwahaniaeth rhwng byw a marw.
Yn aml bydd larymau mwg yn codi olion mwg cyn i chi wneud, gan roi rhybudd cynnar o berygl ac amser gwerthfawr i ddianc rhag eich cartref yn ddiogel.
Yn ystod tân yn y cartref, mae’n bosibl y byddwch yn mynd yn ddryslyd ac felly hoffen ni bwysleisio hefyd mor bwysig yw cynllunio llwybr dianc a sicrhau bod pawb yn gwybod beth i’w wneud os oes tân.
Byddwn yn gosod larymau mwg am ddim fel rhan o’n Gwiriadau Diogelwch Tân yn y Cartref, helpu i gynllunio llwybr dianc, a thrafod sut gallwch leihau’r perygl y bydd tân yn dechrau yn eich cartref.”
Mae unrhyw un sydd am archebu Gwiriad Diogelwch Tân yn y Cartref yn gallu ffonio 0800 169 1234 i ofyn am ymweliad.
Meddai Kim Smith, Prif Swyddog Gweithredol Atal Tân Cymru,:
“Mae Atal Tân Cymru’n falch o fod yn rhan o’r Wythnos Diogelwch Tân cyntaf i Gymru. Rydyn ni eisiau i bobl fod yn fwy ymwybodol o risgiau tân a chymryd camau ymarferol i wneud eu cartrefi a’u cymunedau’n fwy diogel.”
Nodiadau i’r golygyddion
I gael rhagor o wybodaeth am Wythnos Diogelwch Tân Cymru, ewch i www.southwales-fire.gov.uk
Elusen gofrestredig yw Atal Tân Cymru sy’n ymroddedig i leihau marwolaethau ac anafiadau oherwydd tân trwy godi ymwybyddiaeth, rhoi gwybodaeth, hyrwyddo ymchwil ac annog cydweithredu rhwng y sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol ar ddiogelwch tân i wneud Cymru’n lle mwy diogel.
Gweithgareddau ymladdwyr tân yn ystod Wythnos Diogelwch Tân
Bydd ymladdwyr tân Cwmbrân yn Asda yng Nghwmbrân ar yr adegau canlynol
Llun 22 Prynhawn
Maw 23 Prynhawn
Mer 24 Bore
Iau 25 Bore
Gwe 26 Prynhawn
Bydd ymladdwyr tân yr Eglwys Newydd yn Lidl, Heol Maes-y-coed ar yr amser canlynol
Llun 22 2-4p.m.
Bydd ymladdwyr tân Y Blaenau y tu allan i Pioneer Store ar y Stryd Fawr, Y Blaenau ddydd Mercher 24 Medi o 09:00 tan 12:00 i ddosbarthu taflenni a chynnig cyngor diogelwch tân i’r cyhoedd.
Ymweliad Diogelwch Tân yn y Cartref Ffôn am dim ar 0800 169 1234 Llanwch y ffurflen cofrestri ar lein E-bost: Diogelwch Tân yn y Cartref Testun: 88365 [Canllaw]
Ffôn am dim ar 0800 169 1234
Llanwch y ffurflen cofrestri ar lein
E-bost: Diogelwch Tân yn y Cartref Testun: 88365 [Canllaw]