Rhwng Mai 25 – 29 bydd sefydliadau ar draws y DU yn cynnal digwyddiadau fel rhan o wythnos genedlaethol gyntaf y teulu 2009, er mwyn dod â theuluoedd at ei gilydd. Yn ystod yr wythnos, hoffai Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru atgoffa teuluoedd i feddwl am sut byddent yn dianc rhag tân yn y cartref.
Ydy pawb yn eich cartref yn gwybod beth i’w wneud os byddai tân?
Ydy’r larymau mwg yn gweithio?
Ydych chi’n cau pob drws yn y tŷ cyn mynd i’r gwely?
Dyma rai o’r pethau yr hoffai Ymladdwyr Tân i deuluoedd eu hystyried yn ystod Wythnos
Genedlaethol y Teulu, ac fe allent wneud gwahaniaeth enfawr i’w bywydau.
Bydd Cynghorydd Addysgol Plant Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, Stephanie Murphy yn ymweld â theuluoedd fel rhan o’r
wythnos genedlaethol.
Dywedodd “Byddwn yn siarad gyda rhieni a phlant am sut maent yn helpu ei gilydd i aros yn ddiogel yn y cartref. Gall plant ag oedolion gael panig yn ystod tân yn y cartref felly byddai’n ddelfrydol i deuluoedd gynllunio ac ymarfer dianc gyda’i gilydd, fel bod pawb yn gwybod beth i’w wneud. Yn ystod yr wythnos, byddwn yn rhoi cyngor i’r teuluoedd yr ydym yn dod ar eu traws ar sut i atal tanau yn y lle cyntaf. Dyma’r ffordd orau i sicrhau na chewch byth dân yn eich cartref, na gorfod defnyddio eich cynllun dianc go iawn.”
Am fwy o wybodaeth ar gynlluniau dianc ewch i www.decymru-tan.gov.uk a gellir gwneud cais am archwiliad diogelwch tân yn y cartref am ddim drwy ffonio 0800 169 1234. Bydd Ymladdwyr Tân yn ymweld â’ch cartref, yn eich helpu i gynllunio llwybrau dianc gyda’ch teulu ac yn gosod larymau mwg am ddim.
Manylion Cyswllt
Ffôn: 01443 232000 Ffacs: 01443 232165
E-bost: Swyddfa’r_Wasg@decymru-tan.gov.uk
Gallwch ein Hoffi ar Facebook, ein Dilyn ar Twitter ein Gwylio ar Flickr a YouTube.