Ymladdwyr Tân yn agor eu drysau am Ddiwrnod o Hwyl 

Mae Ymladdwyr Tân presennol Gorsaf Dân Y Bont-faen yn cynnal diwrnod agored arbennig i annog mwy o bobl leol i ddarganfod mwy am waith yr Orsaf Dân leol. Os oes diddordeb ganddynt, gallant ddarganfod sut mae dod yn rhan o’r tîm newydd o Ymladdwyr Tân System Dyletswydd Rhan Amser.

Ddydd Llun Gŵyl Banc nesaf (25 Mai), galwch draw i’r Orsaf Dân i fwynhau’r adloniant a’r croeso. Mae’r cyfan yn rhan o adfywio’r ymgyrch i ddenu Ymladdwyr Tân newydd a chynnwys y gymuned ym mywyd yr Orsaf.

Mae mynediad i’r diwrnod agored am ddim a bydd yr hwyl yn dechrau am 10.30am gan barhau nes tua 4pm.

Fe ddylai’r diwrnod agored godi proffil yr Orsaf Dân yn yr ardal leol. Bydd yr Orsaf yn newid ei system griwio o fod yn griw dydd i fod yn rhan amser cyn gynted a bod digon o Ymladdwyr Tân System Dyletswydd Rhan Amser wedi’u recriwtio. 

Bydd y diwrnod hwyl yn cynnwys y ‘Barbiciw mwyaf diogel yn y dref’, castell bownsio ar gyfer y plant a nifer enfawr o arddangosfeydd ymladd tân, gan gynnwys arddangosfa tân sosban sglodion, yr uned achub arbenigol ac arddangosiad yn dangos beth gall Ymladdwyr Tân wneud adeg gwrthdrawiad traffig ar y ffyrdd.

Bydd hofrennydd bychan y Gwasanaeth Tân (microdrone), sydd fel arfer yn cael ei ddefnyddio i wneud arolwg o safle tân at ddibenion ymchwiliad, yn amgylchynu’r orsaf yn yr awyr yn ffilmio’r dorf yn codi llaw!

Dywedodd Rheolwr yr Orsaf, Dewi Jones, fod yr Ymladdwyr Tân wedi bod yn gweithio’n galed i baratoi at yr ymweliad gan gyhoedd Y Bont-faen.

Dywedodd,

Byddai’n braf iawn gweld bod gennym gefnogaeth ein cymuned ar y diwrnod agored a gobeithio y bydd llawer o bobl yn dod i gael gweld beth yr ydym yn gwneud a chael hwyl ar yr un pryd.

Mae gennym eisoes nifer o bobl leol sydd yn y broses o wneud cais i ddod yn Ymladdwyr Tân yn Y Bont-faen. Hoffwn yn fawr iawn i siarad ag unrhyw un sydd â diddordeb yn y swydd gyflogedig a gwerthfawr hon.

Caiff Ymladdwyr Tân ‘System Dyletswydd Rhan Amser’ eu hyfforddi'r un peth ag Ymladdwyr Tân llawn amser, fodd bynnag, nid ydynt wedi’u lleoli yn yr orsaf pan maent ar alwad. Mae Ymladdwyr Tân Rhan Amser yn byw neu’n gweithio o fewn dwy filltir neu pum munud o’u Gorsaf Dân ac maent yn cael eu galw at alwadau brys gan fipiwr. Gall y swydd gynnig cyflog o dros £9,000 y flwyddyn, yn ogystal â derbyn hyfforddiant llawn fel ymladdwr tân a gwneud cyfraniad gwerthfawr i’ch cymuned leol.

                  Manylion Cyswllt  




Ffôn: 01443 232000
Ffacs:
01443 232165

E-bost: Swyddfa’r_Wasg@decymru-tan.gov.uk 


Gallwch ein Hoffi ar Facebook, ein Dilyn ar Twitter ein Gwylio ar Flickr a YouTube.

Cysylltiadau Defnyddiol

Tudalen Wedi Ei Diweddaru Ar 16/3/2011
SWFRS