Bydd Gorsaf Dân Blaenau yn golchi ceir ar ddydd Sadwrn 14 Awst i godi arian at Elusen yr Ymladdwyr Tân ac ar gyfer Jonathan Foote. Bachgen lleol 14 mlwydd oed yw Jonathan sy’n dioddef o ganser ac mae’r Orsaf am helpu gyda chodi arian i’w gynorthwyo ef a’i deulu drwy’r adeg hyn.
Mae criwiau o’r Orsaf yn cynnig golchi ceir a faniau unrhyw un sy’n galw heibio'r safle ar High Street ar ddydd Sadwrn 14 Awst rhwng 9am a 1pm. Bydd yr holl arian sy’n cael ei godi yn cael ei roi i Elusen yr Ymladdwyr Tân ac i Jonathan a’i deulu.
Mae Ymladdwyr Tân wedi cynnal nifer o ddigwyddiadau golchi ceir llwyddiannus yn y gorffennol, ac maent am wneud hyn eto i godi arian at achos da iawn yn ogystal â gwneud yn siŵr fod cerbydau Blaenau yn disgleirio!
Bydd gofyn i bawb sy’n galw heibio roi cyfraniad i’r elusen.
Manylion Cyswllt
Ffôn: 01443 232000 Ffacs: 01443 232165
E-bost: Swyddfa’r_Wasg@decymru-tan.gov.uk
Gallwch ein Hoffi ar Facebook, ein Dilyn ar Twitter ein Gwylio ar Flickr a YouTube.