Mae’r Ymladdwyr Tân System Dyletswydd Rhan Amser (SDRA) cyntaf i weithio yng ngorsaf dân Y Bont-faen ers 35 mlynedd wedi dechrau ar eu gyrfaoedd gyda Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yr wythnos ddiwethaf, gan ddechrau gyda cham cyntaf cyfnod hyfforddi dwys a fydd yn rhoi'r holl sgiliau iddynt sydd eu hangen er mwyn darparu gwasanaeth tân ac achub o’r radd flaenaf i bobl Y Bont-faen.
Cafodd yr Ymladdwyr Tân Dai Thomas, 49 mlwydd oed, sy’n saer ac adeiladwr hunan gyflogedig; Christopher Biggs, 26 mlwydd oed, sy’n gogydd mewn bwyty lleol; Owen Lewis, 28 mlwydd oed, sy’n rheolwr cwsmeriaid a gwerthu ym Manc HSBC yn Y Bont-faen a Nigel Jones, 40 mlwydd oed, sy’n beiriannydd cynnal a chadw offer anadlu, eu noson gyntaf o hyfforddiant ar yr orsaf yr wythnos ddiwethaf (Dydd Mercher 29 Gorffennaf) gan gael eu croesawu gan Reolwr yr Orsaf Dewi Jones a’r Wylfa Wen - un o’r ddau griw sy’n staffio’r orsaf ar hyn o bryd.
“Bydd ein pedwar Ymladdwr Tân newydd yn cychwyn cyfnod paratoi 6 wythnos sy’n golygu y byddant yn ymuno â’u cydweithwyr llawn amser ar yr orsaf dân am noson o hyfforddiant unwaith yr wythnos, gan ddysgu'r sgiliau sylfaenol sydd eu hangen arnynt cyn iddynt fynychu cwrs ymladd tân cychwynnol dwys wythnos o hyd yn ein Canolfan Hyfforddi a Datblygu ym Mhorth Caerdydd”, dywedodd Dirprwy Brif Swyddog Tân Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, Kevin Barry.
“O hyn ymlaen, drwy gydol eu gyrfaoedd, byddant yn derbyn hyfforddiant rheolaidd ar amrywiaeth eang o sgiliau y byddant eu hangen ar gyfer eu dyletswyddau fel Ymladdwyr Tân, gan gynnwys rhyddhau pobl o wrthdrawiadau traffig ar y ffyrdd, ymladd tân, achub o ddŵr, deunyddiau peryglus, diogelu’r amgylchedd, trafnidiaeth (digwyddiadau awyrennau a rheilffordd), gofal trawma a digwyddiadau terfysgaeth. Rydym yn disgwyl yr un safonau uchel oddi wrth ein Hymladdwyr Tân os ydynt yn llawn amser neu’n rhan amser, ni fyddwn yn derbyn unrhyw beth yn llai. Dyna pam fod ein staff rhan amser yn cwblhau'r un drefn hyfforddiant dwys a’u cydweithwyr amser llawn. Mae ganddynt rôl hanfodol i’w chwarae o ran diogelu eu cymuned, rydym yn hynod falch bod y bobl hyn sydd ag ysbryd cymunedol wedi penderfynu cymryd y cyfle i ymuno â’n tîm”, ychwanegodd.
Ar hyn o bryd mae gan Orsaf Dân Y Bont-faen griw dydd, sy’n golygu fod dwy Wylfa o Ymladdwyr Tân Llawn Amser yn cymryd eu tro i fynychu’r orsaf a’i chriwio rhwng 9am a 6pm pob dydd, yna maent ar alwad rhwng 6pm a 9am. Mae’n rhaid iddynt aros o fewn pellter teithio byr iawn i’r orsaf, er mwyn gallu ymateb yn gyflym pan fyddant yn cael eu galw at ddigwyddiad yn yr ardal. Nid yw’r holl Ymladdwyr Tân yn byw yn Y Bont-faen felly mae’n rhaid i rai ohonynt rentu llety am yr adeg maent ar ddyletswydd, sy’n golygu eu bod yn gadael eu teulu a’u ffrindiau am 4 diwrnod ar y tro. Yn y dyfodol, bydd y system griwio yn hollol rhan amser, sy’n golygu mai pobl sy’n byw ac yn gweithio yn yr ardal leol fydd yn ymateb i ddigwyddiadau brys pan ddaw galwad. Mae’r Ymladdwyr Tân sy’n gweithio yng ngorsaf dân Y Bont-faen ar yn o bryd yn cefnogi’r newid i’r system griwio o griw dydd i ran amser yn llawn.
Dywedodd Rheolwr yr Orsaf Dewi Jones:
“Oherwydd cynnydd yn ymwybyddiaeth tân drwy ein Harchwiliadau Diogelwch Tân yn y Cartref (y gellir eu trefnu drwy ffonio 0800 169 1234) a’r dull rhagweithiol a fabwysiadwyd gan Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru tuag at bob digwyddiad brys, mae’r perygl i drigolion Y Bont-faen wedi’i leihau. Ein bwriad yw gwasanaethu cymuned Y Bont-faen gydag Ymladdwyr Tân System Dyletswydd Rhan Amser hynod o gymwys sydd eisoes yn byw ac yn gweithio yn yr ardal ac sydd ag ymwybyddiaeth o’r holl faterion lleol, yn union fel yr oedd 35 mlynedd yn ôl, ac yn yr un ffordd ac y mae Llanilltud Fawr a Phont-y-clun yn cael eu gwasanaethu ar hyn o bryd”.
Bydd Y Bont-faen yn newid yn ôl i fod yn rhan amser unwaith bod cyflenwad llawn o tua 18 Ymladdwr Tân Rhan Amser wedi’u hyfforddi’n llawn yn eu lle a byddant yn ymateb i argyfyngau gan ddefnyddio teclynnau galw, yn debyg i sut mae’r criw yn ymateb ar hyn o bryd wrth ddarparu gwasanaeth yn ystod y nos. Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru wedi rhedeg ymgyrch recriwtio yn ddiweddar, sydd wedi bod yn hynod o lwyddiannus wrth ddenu ceisiadau oddi wrth ddynion a menywod sy’n byw yn y gymuned leol, a bydd nifer ohonynt yn gweithio ar yr orsaf o fewn blwyddyn.
Bydd yr Ymladdwyr Tân sy’n criwio’r orsaf ar hyn o bryd yn cael eu symud i orsafoedd llawn amser eraill yn yr ardal, a bydd rhai ohonynt yn ymuno â’r system rhan amser yn ychwanegol i’w swyddi llawn amser.
PENNAWD LLUN
Noson gyntaf ar yr orsaf: Ymladdwyr Tân dan hyfforddiant Dai Thomas, Nigel Jones, Chris Biggs ac Owen Lewis (o’r chwith, yn sefyll) sy’n ymuno â’r Wylfa Wen - Rheolwr Criw Mark Evans, YT Gareth Brown, YT Leonard “Lee” England, YT Anthony “Lee” Davies ac YT Lee Young.
Manylion Cyswllt
Ffôn: 01443 232000 Ffacs: 01443 232165
E-bost: Swyddfa’r_Wasg@decymru-tan.gov.uk
Gallwch ein Hoffi ar Facebook, ein Dilyn ar Twitter ein Gwylio ar Flickr a YouTube.