Wedi cyrraedd, gwelodd y criwiau tân nifer o gymdogion tu allan i’r tŷ a dyn yn ei 60au yn ceisio achub plant o ffenestr gefn llawr cyntaf yr adeilad gan ddefnyddio ei ysgol ei hun. Aeth Ymladdwr Tân i fyny’r ysgol a derbyn tri phlentyn oddi wrth yr aelod o’r cyhoedd. Cafodd pedwerydd plentyn ei basio allan drwy ffenestr ystafell wely'r llawr cyntaf i ail Ymladdwr Tân.
Aeth dau Ymladdwr Tân yn gwisgo offer anadlu i mewn i’r tŷ drwy’r drws blaen. Daethant ar draws gwres difrifol a mwg trwchus, chwerw. Cafodd yr Ymladdwyr Tân hyd i bumed plentyn yn yr ystafell fyw ar y llawer gwaelod a’i helpu hi i ddianc drwy’r ffenestr ar y llawr gwaelod.
Parhaodd Ymladdwyr Tân i archwilio’r tŷ i wneud yn siŵr fod pawb yn saff. Cafodd y tân ei ddiffodd a chafodd y mwg ei glirio gan ddefnyddio chwythwyr awyru gwasgedd positif.
Unwaith oedd y tŷ yn ddiogel i fynd mewn iddo, cafodd archwiliad tân ei gynnal gan Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru. Sefydlwyd achos y tân fel un damweiniol a oedd yn ymwneud â gosodiadau trydanol ar y llawr gwaelod.
Dywedodd Rheolwr Grŵp Richie Prendergast, “Heb os nac oni bai gwnaeth gwaith y Criwiau Tân, cymdogion a staff yr Ystafell Reoli Tân helpu achub bywydau pum plentyn a rhaid cydnabod hyn. Roedd y cymdogion yn gallu dweud ble’r oedd y plant oedd wedi’u dal a gwnaethant helpu gydag achub pedwar plentyn gan ddefnyddio eu hysgol eu hunain.”
“Yn ffodus, gwnaeth yr holl bobl ifanc ddianc o’r adeilad yn ddiogel. Roeddent wedi dilyn y canllawiau goroesi tân a roddodd yr Ystafell Reoli Tân iddynt gan gadw drws yr ystafell wely ar gau, ac o ganlyniad ni lenwodd yr ystafell gyda mwg.”
“Roedd difrod mwg a thân difrifol drwy gydol y tŷ oherwydd ffyrnigrwydd y tân. Fodd bynnag, gwnaeth cau drws yr ystafell wely wneud gwahaniaeth mawr i’r plant i fyny’r grisiau gan fod yr aer wedi aros yn weddol glir.”
“Cafodd y tân ei ganfod yn gynnar oherwydd bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen wedi gosod larymau mwg gwifredig, gan roi rhybudd i’r plant am y tân.”
Manylion Cyswllt
Ffôn: 01443 232000 Ffacs: 01443 232165
E-bost: Swyddfa’r_Wasg@decymru-tan.gov.uk
Gallwch ein Hoffi ar Facebook, ein Dilyn ar Twitter ein Gwylio ar Flickr a YouTube.