Cadwch gyda’r oes â’r newyddion a’r digwyddiadau diweddaraf 

‘Dilynwch’ ni ar Twitter a ‘Hoffwch ni’ ar Facebook
 
Lansiodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru ei dudalen Facebook a Twitter, sy’n galluogi pobl i gyfathrebu â’u Gwasanaeth Tân ac Achub mewn ffordd mwy rhyngweithiol, cyrchadwy a chyfoes.
 
Mae’r tudalennau newydd hyn yn galluogi defnyddwyr Facebook a Twitter ar draws y wlad a hyd yn oed y byd, gyrchu’r newyddion diweddaraf, cyngor diogelwch tân a ffyrdd, diweddariadau ar ymgyrchoedd cymunedol a recriwtio yn ogystal â medru cysylltu’n uniongyrchol â’r Gwasanaeth.

Dywedodd Huw Jakeway, Prif Swyddog Tân Dros Dro, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru;

"Adnabyddodd ein tîm Cyfathrebu a Chysylltiadau boblogrwydd cynyddol rhwydweithio cymdeithasol ymysg nifer cynyddol o bobl yn Ne Cymru ac yn wir ar draws y byd, ac rydym yn teimlo y bydd presenoldeb ar Facebook a Twitter yn darparu ffyrdd ategol ac amgen o gyfathrebu â’r cyhoedd a’n partneriaid sy’n amgenach na’r sianelau traddodiadol y defnyddiwn eisioes.
 
"Dymunwn i’n cymunedau allu ymgysylltu â ni mewn ffordd sy’n fwy cyfleus a chyrchadwy iddynt ac mae rhwydweithio cymdeithasol yn cynnig y cyfle hwn i ni. I ni, mae’n bwysig y sicrhewn yr ydym yn rhoi’r wybodaeth sydd angen ar y bobl yn y mannau lle rydynt yn eu defnyddio."

"Yn ogystal, gobeithiwn bydd defnyddio Facebook a Twitter yn ffordd da i ni siarad â rhai pobl sy’n anodd eu cyrraedd, yn ogystal â chysylltu â phobl ynghylch materion lleol penodol sy’n bwysig iddynt."

"Rydym yn ymwybodol y defnyddir Facebook, Twitter a safleoedd rhwydweithio cymdeithasol eraill gan bobl o bob math o ddemograffeg a diddordebau ac anghenion gwahanol.

"Drwy ‘Hoffi’ tudalen Facebook GTADC a’n ‘Dilyn ni’ ar Twitter, gall pobl weld y newyddion diweddaraf, cyngor diogelwch tân a ffyrdd,
diweddariadau ar ymgyrchoedd cymunedol a recriwtio a bostiwyd ar ein safleoedd ac fe’u cyfeirir at wefan ein Gwasanaeth".

                  Manylion Cyswllt  




Ffôn: 01443 232000
Ffacs:
01443 232165

E-bost: Swyddfa’r_Wasg@decymru-tan.gov.uk 


Gallwch ein Hoffi ar Facebook, ein Dilyn ar Twitter ein Gwylio ar Flickr a YouTube.

Tudalen Wedi Ei Diweddaru Ar 05/1/2012
SWFRS