Mae Prif Swyddog Tân Cynorthwyol Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru (GTADC) yn ymbil ar gymunedau i fod mor effro ag arfer yn nhermau diogelwch tân a ffyrdd yn ystod y gweithredu diwydiannol a gynllunir ar gyfer Tachwedd y 30ain, ond yn cysuro’r cyhoedd, er gwaethaf ychydig o darfu gweithredol mewnol, y bydd GTADC yn darparu’r un lefel uchel o ymateb i danau ac argyfyngau yn unol â disgwyliadau’r cyhoedd.
Mae undebau Unite, Unsain, GMB a Chymdeithas Genedlaethol y Prifathrawon ymysg y rhai sy’n bwriadu gweithredu’n ddiwydiannol o ddydd Mawrth y 29ain o Dachwedd hyd ganol nos Fercher y 30ain o Dachwedd, yn galluogi unrhyw aelod o bersonél Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru sy’n aelod o’r undebau hynny gael protestio drwy weithredu’n ddiwydiannol.
Mae nifer staff GTADC a ddisgwylir i brotestio yn isel ac ni effeithir staff gweithredol gan bod mwyafrif ein staff gweithredol yn aelodau o Undeb yr Ymladdwyr Tân (FBU) ac fe ddewison nhw i beidio â chynnal pleidlais hyd yma. Bydd y Gwasanaeth, felly, yn parhau i ymateb i alwadau argyfwng yn ôl yr arfer, ac mae GTADC yn disgwyl dychwelyd i normalrwydd yn sydyn ac yn ddiogel ar ddiwedd unrhyw gyfnod o weithredu diwydiannol.
Eglurodd Rod Hammerton, Prif Swyddog Tân Cynorthwyol, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru ; “Tra bod Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn deall paham bod staff yn gweithredu’n ddiwydiannol, mae gan Yr Awdurdod Tân ac Achub ddyletswydd ac ymrwymiad i sicrhau y bydd darpariaeth gwasanaethau i’r cyhoedd yn parhau yn ddieffaith hyd â bod hynny yn rhesymol ymarferol”.
Parhaodd ; “Er mod i’n deall pryderon staff mewn perthynas â threfniadau pensiynau, gyda’r newidiadau arfaethedig yn effeithio ar amryw o bobl mewn ystod eang o sefydliadau ar draws y sector cyhoeddus, fy mhrif flaenoriaeth yw sicrhau diogelwch y cyhoedd a chysoneb gwasanaeth cyhoeddus.”
Er mwyn darparu cysur i gymunedau, eglurodd bod cyngor diogelwch a chanllawiau i’r cyhoedd ar gael ar wefan Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, gwefannau rhwydweithio cymdeithasol Facebook a Twitter, yn ogystal â’r newyddion lleol. Ond pwysleisiodd bwysigrwydd y cyngor dilynol pe ddigwyddai tân;
Atal sydd orau – talu sylw ychwanegol i ddiogelwch tân yn y cartref. Os bydd tân yn cynnau – ewch allan, arhoswch allan a galwch 999Peidiwch â chael eich temptio i daclo tân eich hun.
“Bydd angen i berchnogion busnesau sicrhau bod eu hasesiad risg rhag tân yn gyfredol a sicrhau bod eu hadeiladau yn parhau i fod yn ddiogel rhag tân yn ystod cyfnodau o weithredu diwydiannol. Dyma ychydig o gynghorion diogelwch rhag tân i berchnogion tai a busnesau isod”:
Diogelwch Tân yn y Cartref :
Larymau Mwg – Gosodwch larwm mwg ar bob llawr yn eich cartref ac archwiliwch hwy yn rheolaidd. Dylid gwirio’r batris unwaith yr wythnos a’u newid o leiaf unwaith y flwyddyn.
Coginio – Cymrwch ofal arbennig wrth goginio. Peidiwch byth â gadael deunyddiau coginio yn ddioruchwyliaeth. Peidiwch â llenwi padell tsips mwy na threian llawn. Peidiwch byth â rhoi bwyd i mewn i badell tsips os bydd yr olew yn mygu – trowch y gwres i ffwrdd a gadewch iddo oeri. Peidiwch byth â choginio tra’n dioddef o effeithiau alcohol.
Canhwyllau – Peidiwch â defnyddio canhwyllau yn rhy agos i lenni. Peidiwch â gadael canhwyllau yn ddioruchwyliaeth. Sicrhewch y diffoddir canhwyllau yn gywir ar bob adeg.
Matsys – Cadwch matsys a thanwyr sigaréts allan o afael plant.
Deunyddiau Ysmygu – Defnyddiwch flwch llwch priodol ar bob adeg. Diffoddwch ddeunyddiau ysmygu yn gywir. Peidwich byth ag ysmygu yn y gwely.
Cynllun Dianc – Cynlluniwch eich llwybr dianc gyda phawb, gan gynnwys plant a’r henoed ar bob adeg. Caewch pob drws bob nos a diffoddwch pob darn o gyfarpar trydanol nad sy’n cael ei ddefnyddio a thynnwch y socedi.
Tanau Agored – Rhowch sgrîn dân o flaen pob tân agored. Peidiwch â sychu dillad yn rhy agos i dân agored.
Trydanol – Amnewidiwch unrhyw geblau sydd wedi gwisgo neu a ddifrodwyd. Defnyddiwch y ffiwsiau cywir ar gyfer offer trydanol domestig. Profwch flancedi trydanol yn flynyddol. Peidiwch â gorlwytho socedi.
Perchnogion Busnes:Er mwyn sicrhau bydd eich adeilad yn parhau yn ddiogel rhag tân yn ystod cyfnodau o weithredu diwydiannol:Yn gyntaf, dylai perchnogion busnes adolygu eu Hasesiad Risg rhag Tân ac, os bydd angen gwneud newidiadau, gweithredu rhain fel mater o bwysigrwydd. Yn ogystal, bydd angen cymryd rhagofalon i warchod rhag i dân gynnau. Gall hwn fod cyn symled â cherdded o gwmpas yr adeilad ar ddiwedd diwrnod gwaith er mwyn sicrhau nad oes deunyddiau llosgadwy yng nghyffiniau’r adeilad.
Yn ogystal, bydd angen i berchnogion sicrhau bod holl aelodau’r staff yn deall gweithdrefnau ar gyfer lleihau cyfleon i danau gychwyn a bod pawb yn parhau i fod yn effro i beryglon tân. Bydd yr hyn sydd angen i berchnogion eu gwneud yn dibynnu ar eu Hasesiad Risg rhag Tân eu hunain.
Yn ystod unrhyw gyfnod o weithredu diwydiannol, bydd cyfrifoldeb cynnal y rhagofalon tân o fewn yr adeliad fusnes yn parhau â ‘Pherson Cyfrifol’ yr eiddo, ac felly cynghorir perchnogion busnes i sicrhau bod popeth yn ei le yn unol â Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005, er mwyn sicrhau diogelwch staff, ymwelwyr a’r adeilad.
Gorffennodd Rod Hammerton ; “Os bydd unrhyw aelod o’r cyhoedd angen galw Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru mewn perthynas â mater nad sydd o bwys uniongyrchol, mi fydd o gymorth i ni pe byddwch yn ystyried aros am ddiwrnod yn ychwanegol cyn gwneud yr alwad honno”.