‘Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn parhau’r ymdrech i ddarparu gwasanaethau ardderchog i bawb.’
Heddiw, cyhoeddodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru ein Cynllun Gwella ar gyfer 2011/2012, lle rydym yn dweud wrthych am rai o’n prif cyflawniadau rhwng Ebrill 2010 a Mawrth 2011 a’r hyn yr ydym yn bwriadu ei wneud rhwng Ebrill 2011 a Mawrth 2012, ac i’r dyfodol.
Mae’r Cynllun Gwella ar gyfer 2011/2012 yn cwmpasu ein Cynllun Lleihau Risg 2012/2013 sy’n diweddaru’r sefyllfa mewn perthynas â’r Prosiectau a adnabyddwyd fel gweithgareddau gwella allweddol yng Nghynllun Lleihau Risg 2011/2012.
Mae gan y cyhoedd ddisgwyliad y bydd darparwyr gwasanaeth cyhoeddus yn parhau i wella y modd y darperir eu gwasanaethau ynghyd â sicrhau y caiff arian cyhoeddus ei wario yn gywir. Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru wedi ymrwymo i sicrhau ein bod yn darparu’r gwasanaeth gorau posib er mwyn gwneud ein cymunedau’r lleoedd mwyaf diogel i fyw a gweithio ynddynt ac i ymweld â hwy.
Yn yr hinsawdd economaidd gyfredol, rydym ni, ynghyd â sefydliadau eraill yn ysector cyhoeddus yn wynebu heriau ariannol hollol newydd a byddwn yn parhaui ddarparu gwasanaethau effeithiol, gan ostwng ein cyllideb weithredol ar y cydâ sicrhau ein bod yn anfon peiriannau tân allan yn gyflym ac yn brydlon i fodlonianghenion y cyhoedd, a pharhau i ymweld â chartrefi, ysgolion a lleoliadaueraill i rannu ein neges ynghylch cadw’r cyhoedd yn ddiogel.
Rydym wedi ceisio egluro i chi y gwahaniaethau y byddwch chi, fel aelod o’r gymuned yn medru ei weld o ganlyniad i’n gweithgareddau a gyflawnwyd rhwng Ebrill 2010 a Mawrth 2011.
Dywedodd Huw Jakeway, Dirprwy Brif Swyddog Tân, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru ;
“Fel pob corff arall a ariannir yn gyhoeddus, mae angen i ni ymateb i’r her o leihau gwariant cyhoeddus ac archwilio sut y byddwn yn medru ymdopi orau â’r galwadau cystadleuol sydd ar ein hadnoddau ac rwy’n hyderus y byddwn yn medru ymateb i’r her sy’n ein wynebu fel gwasanaeth a ariannir gan y cyhoedd.
Parhaodd DBST Jakeway; “Byddwn yn parhau i adeiladu ar yr adborth llwyddiannus a dderbyniwyd gan Swyddfa Archwilio Cymru, a nododd yn eu Cynllun Gwella Blynyddol ‘bod arweinyddiaeth effeithiol a threfniadau corfforaethol grymus yn darparu sylfaen diogel ar gyfer gwelliant mewn perfformiad’. Mewn geiriau eraill, maent yn teimlo ein bod yn debygol o wella pethau i’r bobl sy’n byw o fewn ein hardal gan bod gennym arweinyddiaeth gadarn ac fe’n rheolwyd yn dda.”
Dywedodd Cyng. Anthony Ernest, Cadeirydd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru “Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn dymuno datgan ein gwerthfawrogiad didwyll am holl waith caled ein haelodau staff, ein haelodau etholedig a’n partneriaid. Mae’r Gwasanaeth yn falch bod ein perfformiad yn parhau i fod yn eithriadol o uchel ac rydym yn anelu i adeiladu ar y safonau uchel hyn er mwyn sicrhau ein bod yn gwneud ein cymunedau’r lleoedd mwyaf diogel i fyw a gweithio ynddynt ac i ymweld â hwy.”.
Mae’r cynllun ar gael ar wefan y Gwasanaeth sef: Cynllun Gwella 2011/2012
neu drwy gysylltu â : Sarah Watkins neu Howard Thomas, Cynllunio Perfformiad, Pencadlys Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, Parc Busnes Forest View, Llantrisant, CF72 8LX ffôn 01443 232000 e-bost: performance@southwales-fire.gov.uk
Manylion Cyswllt
Ffôn: 01443 232000 Ffacs: 01443 232165
E-bost: Swyddfa’r_Wasg@decymru-tan.gov.uk
Gallwch ein Hoffi ar Facebook, ein Dilyn ar Twitter ein Gwylio ar Flickr a YouTube.