Gweithdy Diogelwch Tân Busnes Am Ddim 

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn cynnal Gweithdai Diogelwch Tân yn y Pencadlys ym Mhont-y-clun ar 5 Gorffennaf 2010 a 18 Awst 2010, i gychwyn am 11.00am.

Mae’r gweithdai wedi’u cyfyngu i 20 person, a’r 20 cyntaf i gofrestru bydd yn cael lle. Mae’r gweithdai’n para tua dwy awr. I archebu eich lle ar y gweithdy, cysylltwch â’r Adran Diogelwch Tân Deddfwriaethol ar 01443 232732 neu 01443 232520

Cefndir

Yn 2006, daeth y Gorchymyn Diogelwch Tân i rym, gan ddod yn lle Deddf Rhagofalon Tân 1971 a’r Rheoliadau Rhagofalon Tân (yn y gwaith). Ers ei gyflwyno, mae llawer o gyflogwyr ar draws y wlad ddim yn deall eu cyfrifoldebau’n llawn o hyd. Byddwn yn esbonio’r rhain yn llawn, yn trafod ein gweithdrefnau gorfodaeth, apeliadau ac unrhyw gosbau a/neu ddirwyon y mae gan y Llysoedd y pwer i’w gosod.

Pwrpas

Pwrpas y cyflwyniad yw rhoi gwybodaeth i gyflogwyr, rheolwyr a pherchnogion busnes yn ardal Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru ar;

• eu cyfrifoldebau a’u dyletswyddau o dan y Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân),

• Asesiadau Risg Tân, a

• disgwyliadau Archwiliad Diogelwch Tân.

 

               Ymweliad Diogelwch Tân
               yn y Cartref

Ffôn am dim ar 0800 169 1234

Llanwch y ffurflen cofrestri ar lein

E-bost: Diogelwch Tân yn y Cartref 
Testun
: 88365 [
Canllaw]

Tudalen Wedi Ei Diweddaru Ar 23/6/2010
SWFRS