Ymladdwr tân yn mentro i’r cylch! 

Bydd Ieuan Dobbs, Gorsaf Tân y Barri, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, yn cymryd rhan mewn digwyddiad bocsio elusennol er mwyn cefnogi dwy elusen gymeradwy sef The Firefighter’s Charity a Help for Heroes Firefighter.

Cynhelir y digwyddiad bocsio elusennol Ymladdwyr Tân yn erbyn Yr Heddlu yn Oceana, Heol y Brodyr Llwydion, Caerdydd ar ddydd Sadwrn y 12fed o Dachwedd, gyda’r drysau’n agor am 6pm a’r ornest gyntaf yn cychwyn am 9pm. 

Cost mynediad i’r digwyddiad yw £15 y pen gyda £5 o bob tocyn yn roddedig i’r elusen Help for Heroes.

Gellir cynnig rhoddion i’r Firefighter’s Charity drwy gyrchu’r dudalen rhoddion ddynodol ar y wefan ganlynol http://www.justgiving.com/dobbsy/

Dywedodd Rod Hammerton, Prif Swyddog Tân Cynorthwyol, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru,

“Mae’r digwyddiad hwn yn siwr o fod yn adloniadol iawn. Gobeithiwn bydd y gymuned yn bwrw heibio i ddangos eu cefnogaeth i’r ddwy elusen deilwng”. 

Dyfernir y tlysau gan Faer Caerdydd ar ddiwedd y noson. 


 

                  Manylion Cyswllt  




Ffôn: 01443 232000
Ffacs:
01443 232165

E-bost: Swyddfa’r_Wasg@decymru-tan.gov.uk 


Gallwch ein Hoffi ar Facebook, ein Dilyn ar Twitter ein Gwylio ar Flickr a YouTube.

Tudalen Wedi Ei Diweddaru Ar 10/10/2011
SWFRS