Ymladdwyr Tân Ifanc yn dathlu llwyddiant 

Mae 128 o Ymladdwyr Tân Ifanc (YTI) yn dathlu llwyddiant wedi iddynt basio eu Gwobr Lefel 2 BTEC mewn Gwasanaethau Tân ac Achub yn y Gymuned yn ddiweddar. 

Bu’r Ymladdwyr Tân Ifanc yn gweithio tuag at y wobr hon ers mis Ionawr. Golyga hyn iddynt fynychu noson gangen YTI unwaith yr wythnos gan ddysgu popeth am y Gwasanaeth Tân ac Achub a dysgu sgiliau Ymladdwyr Tân proffesiynol. Mae’r hyfforddiant sy’n digwydd yn wythnosol nid yn unig yn cynnig cyfle iddynt ddysgu sgiliau Ymladd Tân law yn llaw ag Ymladdwyr Tân rhengflaen, ond hefyd yn annog pobl ifanc i ddatblygu sgiliau bywyd gwerthfawr fel cyfathrebu, gweithio fel rhan o dîm, hunan ddisgyblaeth a hyder, a gall yr YTI ddefnyddio rhain oll pan cânt eu cyflogi.

Yn ogystal, anogir YTI i rhyngweithio â’u cymunedau a dysgu am ddiogelwch tân, goblygiadau ymddygiad fel llosgi bwriadol neu gwneud galwadau 999 ffug maleisus, ac ar ddiwedd y rhaglen ddwy flynedd o hyd, mae gan YTI y potensial i gyflawni cymhwyster cenedlaethol cydnabyddedig – Gwobr Lefel 2 BTEC mewn Gwasanaethau Tân ac Achub yn y Gymnuned â chwmni Edexcel.

Yn eu seremoni raddio yn ddiweddar, cawsant arddangos rhai o’r sgiliau a ddysgwyd ganddynt yn ystod eu hamser ar y rhaglen YTI i’w teuluoedd. 

Nid dim ond beth sy’n mynd ymlaen yn ystod y nosweithiau canghennol hyn yn unig, mae pob YTI yn ymgymryd â gweithgareddau gwerthchweil gwirioneddol gan gynnwys prosiectau codi arian fel golchi ceir, pacio bagiau a theithiau beiciau i godi arian ar gyfer Elusennau y “Fire Fighters Charity”, “I Serbia ar Dân”, Elusen Cancr y Fron “Tickled Pink” ac elusennau eraill yn eu cymunedau lleol. 

Cymrodd YTI Tonypandy ran mewn rhaglen gyfnewid Gefeillio trefi gyda Ravensburg yn Yr Almaen.  Treuliodd yr Ymladdwyr Tân ifanc Almeinig beth amser yn Rhondda Cynon Taf ac ymwelodd YTI o Donypandy â’r Almaen gan gymryd rhan yn nathliadau penblwydd yr YTI yn yr Almaen yn 25ain. 

Cynorthwyodd YTI o Gaerffili Dîm “I Serbia ar Dân” yn trosglwyddo hen beiriannau tân i Serbia.  Golygodd hyn gyfranogi yn nifer o weithgareddau codi arian cyn y daith a theithio â chwe injan dân i Serbia, gan deithio 1400 milltir dros 5 diwrnod.

Mae pob profiad a ddaw i’r YTI yn ystod eu hamser yma gyda’r Gwasanaeth wir yn gwneud gwahaniaeth, nid yn unig i’r unigolyn, ond i’w teuluoedd, y cymunedau lleol, yr amrywiol achosion da yr ydym yn eu cefnogi a hefyd i’r Gwasanaeth Tân ac Achub i’n cynorthwyo i gyflawni ein nodau. 

Yn y modd hwn, datblygodd yr YTI sgiliau dinasyddiaeth allweddol bydd yn eu cynorthwyo yn y dyfodol wrth iddynt symud ymlaen yn eu bywydau, ond fydd hefyd yn cael effaith gadarnhaol ar y cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu. Yn ychwanegol, mae’r cymhwyster BTEC yn darparu canlyniad addysgiadol real i’r YTI law yn llaw â’r sgiliau ymarferol a gasglwyd.

Yn gyfredol, mae GTADC yn recriwtio mwy o YTI yn y canghennau canlynol: Cwm Ogwr, Llanilltud Fawr, Caerffili, Y Fenni, a Thredegar.  Cysylltwch â Sian Vowles, 01443 232000 neu 07917 597790 am ragor o wybodaeth, neu lawrwythwch ffurflen gais ar Ymladdwyr Tân Ifanc

                  Manylion Cyswllt  




Ffôn: 01443 232000
Ffacs:
01443 232165

E-bost: Swyddfa’r_Wasg@decymru-tan.gov.uk 


Gallwch ein Hoffi ar Facebook, ein Dilyn ar Twitter ein Gwylio ar Flickr a YouTube.

Tudalen Wedi Ei Diweddaru Ar 21/12/2011
SWFRS