Ar ddydd Llun Medi’r 12fed, bydd Gorsaf Dân Penybont ar Ogwr yn cynnal digwyddiad o’r enw Ymladdwr Tân am ddiwrnod fel ffordd o ddiolch i’r plant a wirfoddolodd fel disgyblion Gwylio am Dân yn eu hysgol (Ysgol Gyfun Maesteg) dros y flwyddyn ddiwethaf.
Dywedodd Martin Donaghue, Rheolwr Gorsaf, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru;
“Yr ydym yn hynod o falch o’r holl ddisgyblion a gymrodd ran yn Ymgyrch Gwylio am Dân ac rydym yn dymuno defnyddio’r digwyddiad hwn i ddiolch iddynt am eu holl gwaith caled ar hyd y flwyddyn ac i danlinellu’r swyddogaeth bwysig yr ydynt yn chwarae o fewn eu hysgol. Rydym yn gobeithio y byddant yn mwynhau’r diwrnod yn fawr.”
Manylion Cyswllt
Ffôn: 01443 232000 Ffacs: 01443 232165
E-bost: Swyddfa’r_Wasg@decymru-tan.gov.uk
Gallwch ein Hoffi ar Facebook, ein Dilyn ar Twitter ein Gwylio ar Flickr a YouTube.