Dywedodd y Prif Swyddog Tân Andy Marles:
Yn ystod tywydd gwael rydym yn gofyn i bobl fod yn arbennig o ofalus er mwyn sicrhau eu diogelwch ac i ddilyn unrhyw gyngor ynghylch aros adref ac osgoi teithio os nad oes rhaid.
“Pan fydd pobl yn aros yn eu cartrefi adeg yr amodau oer hyn mae’n debygol y bydd gwresogyddion ychwanegol oedd wedi’u storio yn cael eu defnyddio, neu ganhwyllau. Os byddwch yn defnyddio’r rhain sicrhewch nad ydych yn eu gosod yn rhy agos i eitemau eraill a allai gynnau ar dân, fel llenni, dillad neu ddodrefn.
"Dylid gosod canhwyllau mewn daliwr canhwyllau ar arwyneb gwastad, cadarn a gwrth-wres fel plât bwyd ac ni ddylid byth eu gadael heb neb i ofalu amdanynt.”
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn rhoi’r cyngor canlynol:
Adroddiadau tywydd
Cadwch lygad ar adroddiadau tywydd ar sianeli newyddion teledu neu radio lleol. Peidiwch â theithio mewn stormydd eira trwm oni bai ei fod yn hollol angenrheidiol.
Teulu a chymdogion
Gofalwch am deulu a chymdogion hŷn i sicrhau eu bod yn cadw’n gynnes ac yn ddiogel.
Afonydd, pyllau a llynnoedd wedi rhewi
Peidiwch â cheisio cerdded ar lynnoedd neu afonydd sydd wedi rhewi. Er bod y rhew yn gallu ymddangos yn ddigon cadarn i gario pwysau mae’n gallu mynd yn denau iawn yn gyflym iawn. Gall yr arwyneb dorri yn rhwydd, ac agor gan achosi i bobl gwympo drwodd. Gall y canlyniadau fod yn angheuol.
Cadwch eich ci ar dennyn ar bwys dŵr wedi rhewi.
Os ydych yn gweld person neu anifail yn cwympo drwy rew ac yn mynd i drafferthion peidiwch byth â cheisio eu hachub eich hun. Yn hytrach, ffoniwch 999 yn syth.
Gyrru yn y Gaeaf
Mae angen i fodurwyr fod yn hynod ofalus a sylwgar ar y ffyrdd dros y gaeaf a gallu addasu pan fydd yr amodau yn newid. Gall y gyrwyr mwyaf profiadol fynd i drafferthion pan fydd rhew ar y ffyrdd.
Holwch eich hun a yw’r siwrnai yn hollol angenrheidiol.
Cyn cychwyn eich taith:
Os oes rhaid i chi deithio mewn tywydd gaeafol, cofiwch:
Gyrrwch yn hynod o ofalus ac osgoi unrhyw symudiadau cyflym am y gallai arwain at golli rheolaeth:
Os byddwch wedi’ch dal yn yr eira:
Manylion Cyswllt
Ffôn: 01443 232000 Ffacs: 01443 232165
E-bost: Swyddfa’r_Wasg@decymru-tan.gov.uk
Gallwch ein Hoffi ar Facebook, ein Dilyn ar Twitter ein Gwylio ar Flickr a YouTube.
Ffôn am dim ar 0800 169 1234
Llanwch y ffurflen cofrestri ar lein
E-bost: Diogelwch Tân yn y Cartref Testun: 88365 [Canllaw]