Wythnos Ymwybyddiaeth Pobl Fyddar  

Deaf Awareness WeekYn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth Pobl Fyddar (4 – 10 Mai 2009), mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru am godi ymwybyddiaeth ynghylch systemau larwm mwg arbennig, a allai achub bywyd rhywun sydd â nam ar eu clyw pe bai yna dân.

Mae’r rhan fwyaf o danau yn y cartref yn digwydd yn ystod y nos, felly beth sy’n digwydd os ydych chi’n fyddar neu’n drwm eich clyw ac wedi tynnu’ch cymorth clyw allan cyn mynd i gysgu?

Dywedodd Martin Henderson, Pennaeth Diogelwch Cymunedol: "Mae’n hynod o bwysig fod gan bobl larymau mwg sy’n gweithio, ac yn fwy penodol, bod gan bobl sy’n fyddar neu’n drwm eu clyw larymau mwg arbenigol.

“Mae hyn yn arbennig o bwysig ar gyfer pobl fyddar neu drwm eu clyw sy’n byw mewn llety wedi’i rentu, gan y gallai gael larwm mwg safonol sy’n anaddas ar eu cyfer. Cysylltwch â’ch Gorsaf Dân lleol a byddwn yn ymweld â’ch cartref i roi cyngor diogelwch tân a gosod larwm mwg sy’n cwrdd â’ch anghenion.”

Trefn Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yw y gall pobl gael eu cyfeirio neu wneud cais am larwm Arbenigol mewn nifer o ffyrdd:

  • Cwblhau ffurflen gais ar-lein
  • Cyfeirio eu hunain drwy ffonio 0800 169 1234 neu drwy unrhyw ffordd arall e.e. drwy wneud cais am ymweliad mewn digwyddiad fel diwrnod agored.
  • Pan fydd criwiau yn cwblhau Archwiliad Diogelwch Tân yn y Cartref, bydd yr Ymladdwyr Tân yn gallu canfod os oes angen larwm arbenigol ar yr unigolyn ac yna bydd y tîm Diogelwch Cymunedol yn dod i’w osod.
  • Cyfeiriadau gan asiantaethau gofal (Help the Aged, RNID, asiantaethau gofal eraill ac ati).
  • Mae gan Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru dîm o staff anweithredol sy’n arbenigo mewn gosod systemau larwm mwg i bobl fyddar.
  • Mae’r larymau yn cynnwys dau larwm mwg, un teclyn sy’n ysgwyd y gobennydd/gwely a theclyn golau strôb.
  • Rydym yn darparu’r larymau hyn am ddim yn yr un ffordd yr ydym yn darparu larymau mwg eraill am ddim yn ystod Archwiliad Diogelwch Tân yn y Cartref.

Mae larymau mwg confensiynol yn gweithio trwy wneud sŵn uchel pan mae’n synhwyro mwg, sy’n rhoi rhybudd cynnar hanfodol am dân, ac felly’n galluogi i bobl  ddianc. Mae angen i bobl fyddar neu drwm eu clyw gael ffyrdd ychwanegol o’u gwneud yn ymwybodol fod y larwm yn canu, sy’n cynnwys padiau sy’n crynu a goleuadau strôb sy’n fflachio.

“Dylai pobl sydd â nam ar eu clyw roi pad crynu o dan eu matres neu obennydd yn y nos. Os bydd mwg yn cael ei synhwyro, bydd y larwm yn canu ac yn achosi i’r pad grynu i gynorthwyo i’w dihuno,” meddai Martin Henderson.

“Mae gan bawb ran i chwarae wrth greu cymunedau mwy diogel. Mae Wythnos Ymwybyddiaeth Pobl Fyddar yn gyfle delfrydol i’r rhai sy’n adnabod rhywun byddar neu drwm eu clyw i sicrhau bod ganddynt larymau sy’n ateb eu gofynion.”
Mae Wythnos Ymwybyddiaeth Pobl Fyddar yn hyrwyddo agweddau cadarnhaol byddardod a chynhwysiad cymdeithasol ac yn cynyddu ymwybyddiaeth am yr amrywiaeth fawr o sefydliadau lleol sy’n cefnogi pobl fyddar a’u teuluoedd a’u cyfeillion. Mae’n bwysig sicrhau nad yw diogelwch yn cael ei esgeuluso. Mae Safon Brydeinig BS5446-3:2005 yn nodi offer larwm mwg ar gyfer pobl fyddar a thrwm eu clyw. Mae nwyddau sy’n cyfateb i’r safon hwn yn sicrhau larymau mwg o ansawdd sy’n ateb gofynion pobl fyddar.

 

                  Manylion Cyswllt  




Ffôn: 01443 232000
Ffacs:
01443 232165

E-bost: Swyddfa’r_Wasg@decymru-tan.gov.uk 


Gallwch ein Hoffi ar Facebook, ein Dilyn ar Twitter ein Gwylio ar Flickr a YouTube.

 Cysylltiadau Defnyddiol

Tudalen Wedi Ei Diweddaru Ar 02/9/2010
SWFRS