Cynhaliwyd Cystadleuaeth Datglymu Cymru Gyfan yng Nghanolfan Hyfforddi a Datblygu Porth Caerdydd ar yr 16eg o Fehefin, 2012.
Daeth timau o Lyn Ebwy, Malpas, Pen-y-bont ar Ogwr, Porthcawl ac Aberdâr i gystadlu yn y digwyddiad ar ran GTADC, gydag un tîm yn cystadlu ar ran Gwasanaeth Tân ac Achub Llundain.
Thema senarios eleni oedd gwrthdrawiadau amryfal gerbydau, gyda gwagle cyfyngedig i ryddhau'r sawl a anafwyd o'r prif gar.
Wrth i'r timau ymgymryd â'u senario priodol, cymrodd y timau eraill ynghyd â nifer helaeth o'r gwylwyr ddiddordeb byw yn y gwahanol ddulliau a ddefnyddiwyd i gwblhau'r tasgau.
Yna, cafwyd y cyflwyniad, gyda'r ail wobr yn mynd i dîm o Aberdâr, a’r teitl Pencampwyr Cystadleuaeth Datglymu Cymru Gyfan 2012 yn mynd i'r tîm o Ben-y-bont ar Ogwr. Bydd y timau hyn nawr yn cynrychioli GTADC yng Nghystadleuaeth Datglymu Prydain.
Dywedodd Prif Swyddog Tân Cynorthwyol Andy Thomas; “Hoffwn ddiolch i bob un o'r timau am gymryd rhan yn y digwyddiad, gan gynnwys dau dîm newydd o Lyn Ebwy a Malpas a thîm Llundain”.
“Yn ogystal, hoffwn ddatgan diolch arbennig i aseswyr UKRO. Heb eu presenoldeb hwy, ni fyddai modd cynnal y digwyddiad”.
“Hefyd, mae llawer o ddiolch yn mynd i noddwyr y gystadleuaeth; ‘Pengam Part Mart ’, sef darparwyr ein 'ceir sydd ar derfyn eu bywydau' a gyflenwir i Orsafoedd Tân.
“Bwriad y gystadleuaeth hon yw gwella sgiliau personél Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru (GTADC) wrth ddelio â gwrthdrawiadau traffig ar y ffyrdd a gobeithir bydd digwyddiad 2013 yn denu mwy o dimau o orsafoedd o fewn ein Gwasanaeth, bydd yn dyrchafu ein gweledigaeth i ‘Wneud ein cymunedau'r llefydd mwyaf diogel i fyw, gweithio ac ymweld â nhw’”.
Manylion Cyswllt
Ffôn: 01443 232000 Ffacs: 01443 232165
E-bost: Swyddfa’r_Wasg@decymru-tan.gov.uk
Gallwch ein Hoffi ar Facebook, ein Dilyn ar Twitter ein Gwylio ar Flickr a YouTube.