Mis Diogelwch Coginio 

Cymru – peidiwch â llosgi yn ystod y Chwe Gwlad

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn cyhoeddi rhybuddion difrifol yn ystod ymgyrch Cymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad. Wrth i bobl ar hyd a lled Cymru benbaladr fwynhau gwledd o rygbi dros yr wythnosau sy’n dod, mae Ymladdwyr Tân yng Nghymru yn dymuno gweld llwyddiant ar y cae ac oddi arni i’r cymunedau maent yn eu gwasanaethu.

Bydd Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn gweld miloedd o gefnogwyr rygbi yn gwylio gemau’r Chwe Glad gyda diodydd alcoholig, naill ai yn eu tai eu hunain neu allan mewn tafarn, yn amsugno’r holl awyrgylch.

Gofynnir i gefnogwyr rygbi a chymunedau De Cymru beidio â cheisio coginio wedi iddynt yfed a dewis bwyd tecawê yn lle.  Y canlyniad gwaethaf gall Cymru ei gael yn ystod y Bencampwriaeth ac unrhyw bryd arall byddai colli rhywun i dân y gellir bod wedi ei hosgoi.

Mae alcohol yn medru effeithio crebwyll yn ddifrifol, yn enwedig os byddwch yn wynebu sefyllfa argyfyngus fel tân padell tships neu danau eraill a gysylltir â choginio.

Yng Nghymru yn 2010-2011, cafwyd 752 o danau damweiniol yn y cartref, ac ym mron i hanner y rhain, ni chafodd larwm mwg ei osod.

Yn ystod yr un cyfnod, collwyd 4 bywyd mewn tanau damweiniol mewn anheddau yn Ne Cymru. Achoswyd 3 o’r tanau angeuol hyn gan ddeunyddiau ysmygu (e.e. sigarennau), sydd hefyd yn gallu bod yn berygl fawr pan fyddwch o dan ddylanwad alcohol. Er na chafwyd marwolaethau a achoswyd gan goginio, cafwyd 296 (39%) o danau mewn anheddau a achoswyd gan ddiffyg gofal a sylw wrth goginio.

Dywedodd Prif Swyddog Tân Dros Dro Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru Huw Jakeway,

“Rydym yn eich cynghori yn gryf yn erbyn yfed alcohol ac yna ceisio coginio pryd i’ch hun. Mae ein Hymladdwyr yn mynychu tanau difrifol yn y cartref a achoswyd gan ddiffyg gofal tra’n coginio. Gall y canlyniadau fod yn arswydus, yn farwol hyd yn oed, felly os gwelwch yn dda defnyddiwch ffyrdd amgenach na defnyddio offer coginio wedi i chi gael diod – Cymrwch decawê yn lle!”

Un o’r problemau mwyaf yw’r sosban tships hen ffasiwn, lle mae’r olew yn gorboethi ac yn tanio, neu pan fydd olew yn gorlifo i’r popty ac yna’n cynnau. Gall y cyfuniad o gysgadrwydd a ddaw yn sgîl yr alcohol a’r amser a gymer i sosban tships wresogi olygu tân difrifol.
Bydd sosban tships a adewir yn ddigwmni yn cymryd rhwng tri a phum munud yn unig i gynnau, os oes fflam lawn oddi tani. Gall y tân wasgaru yn gyflym o’r gegin i weddill yr adeilad.

Cofiwch:

  • Peidiwch byth â choginio bwyd, yn enwedig bwyd wedi’i ffrïo wedi i chi yfed alcohol – ‘Dyw yfed a choginio ddim yn cymysgu’
  • Os oes angen bwyd arnoch wedi i chi gael alcohol, ystyriwch eich tecawê lleol cyn dychwelyd adref neu archebwch fwyd ar gyfer ei gludo
  • Meddyliwch am baratoi rhywbeth cyn i chi fynd allan fel byddwch yn medru ei fwyta wedi i chi gyrraedd gartref

Os byddwch yn coginio tships neu unrhyw fwyd wedi’i ffrïo’n ddwfn ar unrhyw adeg arall, dilynwch y canllawiau hyn:

  • Peidiwch byth â llenwi’r badell mwy na thraean yn llawn o olew
  • Peidiwch byth â gadael y badell yn ddigwmni pan bydd fflam ynghynn – hyd yn oed am ychydig o eiliadau
  • Sychwch y tships cyn eu rhoi yn y badell
  • Peidiwch byth â rhoi’r tships yn y badell os bydd yr olew yn cychwyn mygu. Diffoddwch y gwres a gadewch i’r olew oeri, neu fel arall, gall danio
  • Defnyddiwch ffrïwr saim dwfn trydanol a reolir gan thermostat. Nid oes modd iddo orboethi

Os byddwch yn wynebu tân padell tships, gadewch y gegin, caewch y drws y tu cefn i chi, gwagiwch bawb o’r tŷ, arhoswch allan a galwch y Gwasanaeth Tân ac Achub.

Am ragor o wybodaeth ynglyn â Diogelwch yn y Cartref:

‘Hoffwch’ ni ar Facebook a ‘Dilynwch’ ni ar Twitter

facebook_logo   twitter_logo

                  Manylion Cyswllt  




Ffôn: 01443 232000
Ffacs:
01443 232165

E-bost: Swyddfa’r_Wasg@decymru-tan.gov.uk 


Gallwch ein Hoffi ar Facebook, ein Dilyn ar Twitter ein Gwylio ar Flickr a YouTube.

Tudalen Wedi Ei Diweddaru Ar 06/2/2012
SWFRS